Skip to main content
Chwiliwch y wefan

Lansio cyfres hyfforddiant diogelwch bwyd wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru ar gyfer gweithgynhyrchwyr bwyd a diod

1 min read 12/06/2025

Food production operative with a tablet PC in a factory

Lansiwyd cyfres o weithdai diogelwch bwyd ar gyfer gweithgynhyrchwyr bwyd a diod Cymru diolch i gyllid gan Raglen HELIX Llywodraeth Cymru.

Cynhelir y gyfres o weithdai rhwng mis Mehefin a mis Medi yng Nghanolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, a bydd yn edrych ar bynciau diogelwch bwyd allweddol ar gyfer gweithwyr proffesiynol technegol.

Fel aelodau hanfodol o’r gadwyn gyflenwi, mae gan weithgynhyrchwyr bwyd a diod rôl bwysig i’w chwarae mewn diogelwch bwyd drwy sicrhau bod deunyddiau crai a chynhyrchion ar gael yn barhaus i’r boblogaeth ehangach.

Bydd y gweithdai’n ymdrin â’r pynciau canlynol:

Yn dibynnu ar faint y cwmni a’i gymhwysedd, gellir ariannu mynychu’r gweithdai hyn yn rhannol neu’n llawn. Er bod y gweithdai’n ffurfio cyfres, gall cynrychiolwyr fynychu gweithdai unigol i weddu i’w hanghenion busnes.

Wrth siarad am y digwyddiadau hyfforddi, dywedodd yr Athro David Lloyd, Cyfarwyddwr ZERO2FIVE:

“Ar adeg pan fo diogelwch bwyd byd-eang o’r pwys mwyaf, mae gweithgynhyrchwyr bwyd yn gyfrifol am sicrhau bod deunyddiau crai a chynhyrchion yn parhau i fod ar gael, yn fforddiadwy ac yn ddiogel. Ystyriaeth allweddol i unrhyw weithiwr proffesiynol technegol bwyd a diod, bydd ein cyfres o weithdai yn ymdrin ag amrywiaeth o bynciau pwysig.

“Mae’r digwyddiadau hyn yn rhan o ystod ehangach o gymorth diogelwch bwyd a ariennir y gallwn ei gynnig i weithgynhyrchwyr bwyd a diod drwy Raglen HELIX Llywodraeth Cymru. I gael gwybod mwy am y gefnogaeth y gallwn ei chynnig, byddem yn eich annog i gysylltu â ni.”

Mae Rhaglen HELIX yn cael ei chyflwyno gan bedwar sefydliad ledled Cymru ac mae’n darparu ystod o gymorth technegol ac arloesi wedi’i ariannu i gwmnïau bwyd a diod yng Nghymru.

I gael rhagor o wybodaeth am y gweithdai ac i gofrestru, ewch i:
https://zero2five.org.uk/training-events/

Cysylltwch â ni

Os hoffech gael gwybod mwy am sut y gallwn helpu eich busnes neu os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cymorth y gallwn ei gynnig, yna cysylltwch â ni.

Cysylltwch â ni