Gweithdy Diogeledd Bwyd: Asesu Risg Deunydd Crai, Profi a Rheoli Cyflenwyr
Sylwch — dim ond cynhyrchwyr bwyd a diod newydd a phresennol sydd wedi’u lleoli yng Nghymru a allant gofrestru ar gyfer y digwyddiad hwn, nid ydyw ar gyfer sefydliadau cysylltiedig, ymgynghorwyr neu fyfyrwyr.
Pwy all fynychu
Aelodau’r tîm technegol, technolegwyr deunyddiau crai, aelodau tîm HACCP, rheolwyr cadwyn gyflenwi, rheolwyr Sicrhau Ansawdd a Thechneg.
Gweithdy Diogeledd Bwyd: Asesu Risg Deunydd Crai, Profi a Rheoli Cyflenwyr
Mae asesu risg deunyddiau crai yn broses ragweithiol sy’n nodi, gwerthuso a rheoli peryglon posibl sy’n gysylltiedig â’r cynhwysion a ddefnyddir mewn gweithgynhyrchu bwyd. Mae’n offeryn gwerthfawr sy’n cefnogi diogelwch bwyd ac ansawdd cynhyrchion terfynol trwy fynd i’r afael â risgiau posibl cyn eu defnyddio.
Bydd y gweithdy’n cwmpasu’r canlynol:
- Asesiad risg deunydd crai, meini prawf a methodolegau
- Adnoddau profi deunydd crai
- Mathau o gyflenwyr
- Cysylltiad rhwng asesu risg deunyddiau crai a chymeradwyaeth cyflenwyr
- Cymeradwyaeth cyflenwr gan gynnwys, cychwynnol, parhaus, cyflenwr proses allanol, cyflenwyr gwasanaeth
- Adolygiad perfformiad cyflenwyr
- Mapio’r gadwyn gyflenwi
Cynhelir y gweithdai rhyngweithiol hyn yng Nghanolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE yng Nghaerdydd.
Er bod y gweithdai hyn yn rhan o gyfres, gallwch fynychu gweithdai unigol i weddu i’ch anghenion busnes.
Costau presenoldeb
Yn dibynnu ar faint eich cwmni a’ch cymhwysedd, gall presenoldeb yn y gweithdai hyn gael ei ariannu’n rhannol neu’n llawn.
Bydd y gost ar gyfer pob cynrychiolydd sy’n mynychu’r gweithdy yn amrywio yn dibynnu ar faint y cwmni maent yn gweithio iddo. Mae hyn yn cael ei bennu gan reoliadau cyllido Llywodraeth Cymru.
Yn y ffurflen gofrestru ar gyfer y gweithdy, gofynnir i chi ddarparu gwybodaeth am Reoli Cymorthdaliadau y cwmni ar gyfer y tair blynedd diwethaf a chadarnhau maint eich cwmni. Cyfeiriwch at eich tîm busnes cyllid i sicrhau bod y wybodaeth hon yn gywir gan y gallai fod yn destun archwiliad.
I ddarllen mwy am Reoli Cymorthdaliadau, cliciwch yma.
Os hoffech drafod hyfforddiant mwy manwl neu bwrpasol ar gyfer eich busnes, cysylltwch â ni drwy zero2five@cardiffmet.ac.uk am ragor o wybodaeth.

Manylion y digwyddiad
- Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Campws Llandaf
- 30/04/2026
- 09:30-13:30