Skip to main content
Chwiliwch y wefan

Gweithgynhyrchwyr o Gymru yn ymgynnull yng Nghaerdydd i drafod heriau diogelwch bwyd

3 min read 29/01/2026

HELIX Programme Conference speakers

Mae dros 160 o gynrychiolwyr o ddiwydiant bwyd a diod o Gymru wedi ymgynnull i drafod yr heriau diogelwch bwyd sy’n wynebu’r sector. Wedi’i drefnu gan Ganolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE Prifysgol Metropolitan Caerdydd, cynhaliwyd Cynhadledd Dechnegol Rhaglen HELIX yng Nghaerdydd ar 28 Ionawr 2026. Mae Rhaglen HELIX yn brosiect a ariennir gan Lywodraeth Cymru sy’n galluogi trosglwyddo gwybodaeth i weithgynhyrchwyr bwyd a diod yng Nghymru.

Clywodd y cynrychiolwyr gan amrywiaeth o siaradwyr arbenigol, gan gynnwys Keith Smyton, Dirprwy Gyfarwyddwr yr Is-adran Fwyd yn Llywodraeth Cymru, a agorodd y gynhadledd. Rhannodd Neil Arbery, Pennaeth Cyflenwi Awdurdoadau Lleol o Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru, safbwynt y rheoleiddiwr ar heriau allweddol o fewn y system fwyd a sut maen nhw’n ymateb iddyn nhw mewn ffordd sy’n helpu i gadw defnyddwyr yn ddiogel.

Trafododd Liz Preston, Rheolwr Diogelwch Bwyd i gwmni Asda, y rheswm fod yr archfarchnad wedi datblygu model archwilio diogelwch bwyd ail barti trylwyr, cam sy’n adlewyrchu ei hymrwymiad i ymgysylltu’n ddyfnach â chyflenwyr a gwelliant parhaus. Anogodd sesiwn ryngweithiol dan arweiniad Bertrand Emond o Campden BRI y cynrychiolwyr i ddeall beth sy’n sbarduno ymddygiadau pobl a sut i ddatblygu strategaethau diogelwch bwyd a diwylliant ansawdd effeithiol.

Roedd alergenau yn bwnc allweddol arall, a thrafododd Barbara Hirst o Reading Scientific Services Limited sut a phryd y gellir defnyddio dosau cyfeirio alergenau i wneud penderfyniadau ynghylch y defnydd priodol o labelu alergenau rhagofalus megis ‘gall gynnwys’. Dilynwyd hyn gan sesiwn holi ac ateb gyda Gareth Snook o FEI Foods a Sabina Jones o ANR-Probake, gan ganolbwyntio ar yr heriau rheoli alergenau y maent yn eu hwynebu fel gweithgynhyrchwyr bwyd a diod Cymru.

Rhannodd Sarah Hall, Rheolwr Ardystio yn SALSA, fewnwelediadau ar sut mae cydymffurfiaeth ag ardystiad diogelwch bwyd SALSA yn cefnogi twf diogel ar gyfer busnesau bach a chanolig bwyd a diod, gan gynnwys lansio Rhifyn 7 yn Hydref 2026. Rhoddodd John Figgins, Uwch Reolwr Technegol yn BRCGS, y wybodaeth ddiweddaraf am y brif ddysgeidiaeth o Rifyn 9 Safon Byd-eang Diogelwch Bwyd BRCGS, gan ymdrin ag anghydffurfiaeth gyffredin.

Trafododd Dr John Holah o Pendennis Food Hygiene Ltd sut mae arferion hylendid yn hanfodol i reoli cyflwyniad a thwf Listeria mewn lleoliadau ffatri. Rhannodd yr Athro Emeritws Carol Wallace o Brifysgol Swydd Gaerhirfryn ei meddyliau a’i myfyrdodau ar ddiwylliant sefydliadol diogelwch bwyd dros yr 20 mlynedd diwethaf. Daeth y rhestr siaradwyr i ben gyda Simon Burns o Ganolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE yn trafod ac yn pwysleisio effaith a phwysigrwydd dyluniad hylendid ar ddiogelwch bwyd yn y sector gweithgynhyrchu bwyd a diod.

Yr Athro Peter Sykes

Dywedodd yr Athro Peter Sykes, Pennaeth Canolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE:

“Mae gweithgynhyrchwyr bwyd a diod Cymru yn parhau i wynebu nifer o heriau diogelwch bwyd dybryd, o ddigwyddiadau salwch a gludir gan fwyd a gorsensitifrwydd cynyddol defnyddwyr i alergenau i’r risgiau uwch o dwyll bwyd o fewn cadwyni cyflenwi cymhleth. Mae cadw golwg ar y datblygiadau hyn yn hanfodol, nid yn unig i ddiogelu defnyddwyr ond hefyd i gynnal mynediad i’r farchnad drwy gydymffurfio â rheoliadau a safonau diogelwch bwyd sy’n esblygu. Tynnwyd sylw at lawer o’r materion pwysig hyn yng Nghynhadledd Dechnegol Rhaglen HELIX eleni ac rwy’n siŵr y bydd allbynnau’r trafodaethau hyn yn cefnogi arfer gorau yn niwydiant bwyd a diod Cymru.”

Cynigiodd cystadleuaeth posteri i fyfyrwyr a gwyddonwyr sydd ar ddechrau eu gyrfaoedd blatfform i ymchwilwyr sy’n dod i’r amlwg gyflwyno eu hymchwil diogelwch bwyd. Blessing Okonji oedd enillydd y wobr gyntaf gyda’u poster “Ymwybyddiaeth a Chanfyddiad o Dwyll Bwyd yn Nigeria”.

Wedi’i chyflwyno gan bedwar sefydliad ledled Cymru, mae Rhaglen HELIX Llywodraeth Cymru yn darparu ystod o gymorth technegol ac arloesi wedi’i ariannu i gwmnïau bwyd a diod. Cefnogwyd rhaglen wyddonol Cynhadledd Dechnegol Rhaglen HELIX gan Bwyllgor Cymdeithas Diogelu Bwyd y DU.

Mae modd lawrlwytho cyflwyniadau o gynhadledd eleni yma:

Cysylltwch â ni

Os hoffech gael gwybod mwy am sut y gallwn helpu eich busnes neu os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cymorth y gallwn ei gynnig, yna cysylltwch â ni.

Cysylltwch â ni