Mae Canolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE wedi’i chymeradwyo fel aelod o Gynllun Grŵp y Sefydliad Gwyddor a Thechnoleg Bwyd (IFST).
Mae bod yn aelod o’r cynllun yn golygu bod holl staff technegol ZERO2FIVE wedi cytuno i gydymffurfio â Chod Ymddygiad Proffesiynol IFST ac wedi ymrwymo i gynnal datblygiad proffesiynol parhaus (DPP) effeithiol.
Yr IFST yw prif gorff proffesiynol y DU ar gyfer y rhai sy’n ymwneud â phob agwedd ar wyddor a thechnoleg bwyd. Mae’n cefnogi gweithwyr bwyd proffesiynol trwy rannu gwybodaeth a chydnabyddiaeth broffesiynol ac mae ei aelodaeth yn cynnwys unigolion o ystod eang o gefndiroedd, o fyfyrwyr i arbenigwyr, sy’n gweithio ar draws ystod eang o ddisgyblaethau.
Trwy’r IFST, mae gan ZERO2FIVE fynediad i wybodaeth am y tueddiadau a’r datblygiadau diweddaraf yn y sector, gan gynnwys adnoddau megis gweminarau, digwyddiadau, podlediadau, datganiadau gwybodaeth a’r cyfnodolyn FS&T.
Dywedodd Helen Taylor, Cyfarwyddwr Technegol Canolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE: “Rydym wrth ein bodd bod ZERO2FIVE yn aelod o gorff proffesiynol a gydnabyddir yn rhyngwladol fel yr IFST, sydd wedi ymrwymo i rymuso gweithwyr bwyd proffesiynol trwy hyrwyddo rhagoriaeth mewn gwyddor a thechnoleg, a’i gymhwyso ar draws y gadwyn fwyd.”
I gael gwybod mwy am Gynllun Grŵp IFST, ewch i: https://www.ifst.org/organisations/group-schemes-organisations