Skip to main content
Chwiliwch y wefan

Sesiwn Dechrau Busnes

Sylwch — dim ond cynhyrchwyr bwyd a diod newydd a phresennol sydd wedi’u lleoli yng Nghymru a allant gofrestru ar gyfer y digwyddiad hwn, nid ydyw ar gyfer sefydliadau cysylltiedig, ymgynghorwyr neu fyfyrwyr.

Ydych chi’n wneuthurwr bwyd a diod newydd neu’n ystyried dechrau eich busnes gweithgynhyrchu bwyd a diod eich hun? Neu a ydych chi’n fusnes gwasanaeth bwyd presennol sy’n bwriadu troi at gynhyrchu bwyd a diod?

Os felly, dewch draw i’n Sesiwn Gychwyn Busnes, lle byddwn yn rhoi trosolwg i chi o’r ystyriaethau allweddol ar gyfer sefydlu busnes gweithgynhyrchu bwyd a diod yn ogystal â chyflwyniad i’r gefnogaeth ariannol sydd ar gael.

Rhaid i chi fod yn:

  • Fusnes NEWYDD = llai na 12 mis oed NEU fusnes gwasanaeth bwyd presennol yn edrych ar gynnyrch NEWYDD ar gyfer manwerthu/cyfanwerthu/D2C
  • Wedi’i leoli yng Nghymru ac yn bwriadu cynhyrchu yng Nghymru

Amcanion y sesiwn

Erbyn diwedd y sesiwn, bydd cynrychiolwyr yn:

  • Meddu ar wybodaeth am y gofynion allweddol ar gyfer cofrestru busnes Bwyd a Diod
  • Meddu ar ddealltwriaeth sylfaenol o’r gofynion diogelwch bwyd cychwynnol a gwybodaeth am yr hyfforddiant sydd ar gael
  • Meddu ar ddealltwriaeth sylfaenol o gyrchu cynhwysion
  • Meddu ar ddealltwriaeth sylfaenol o gynllunio busnes a bydd yn cael ei gyfeirio at gymorth pellach yng Nghymru
  • Meddu ar ddealltwriaeth sylfaenol o ymchwil cystadleuwyr a marchnata gyda rhai awgrymiadau ar gyfer ffyrdd rhad ac AM DDIM o wneud ymchwil
  • Meddu ar ddealltwriaeth sylfaenol o awgrymiadau gwerthu a marchnata ar gyfer busnesau newydd
  • Meddu ar ddealltwriaeth sylfaenol o gyllid, costau a dod o hyd i gyllid
  • Meddu ar ddealltwriaeth sylfaenol o raddio cynhyrchiant
  • Meddu ar wybodaeth am y cymorth sydd ar gael trwy Y Rhaglen HELIX, Cywain a Busnes Cymru

Ar ddiwedd y sesiwn, bydd y cynrhychiolwyr yn cael cyfle i drafod eu syniad/cynnyrch penodol gydag aelod o dîm ZERO2FIVE a thrafod y camau nesaf o ran cael cymorth.

Cofrestrwch nawr

 

Food Technologist piping chocolate on to biscuits
  • Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Campws Llandaf
  • 10/03/26
  • 14:00-16:00