Skip to main content
Chwiliwch y wefan

Gweithdy’r Gallu i Olrhain

Sylwch — dim ond cynhyrchwyr bwyd a diod newydd a phresennol sydd wedi’u lleoli yng Nghymru a allant gofrestru ar gyfer y digwyddiad hwn, nid ydyw ar gyfer sefydliadau cysylltiedig, ymgynghorwyr neu fyfyrwyr.

Gweithdy’r gallu i Olrhain

Mae’r gweithdy hwn yn rhoi cyflwyniad i’r prosesau sydd eu hangen i greu system olrhain gynhwysfawr i olrhain deunyddiau crai i gynnyrch gorffenedig a chynnyrch gorffenedig yn ôl i ddeunyddiau crai. Mae’r gallu i olrhain yn ofyniad cyfreithiol i bob busnes bwyd ac yn gam pwysig wrth baratoi os bydd cynnyrch yn cael ei alw’n ôl.

Cynnwys y Cwrs

  • Egluro’r angen am olrhain a’r canlyniadau o wneud pethau’n anghywir.
  • Disgrifio’r gofynion cyfreithiol ar gyfer olrhain.
  • Arddangos defnydd ymarferol o olrhain ymlaen ac yn ôl gan gynnwys cydbwysedd màs.
  • Ystyriaethau ychwanegol wrth sefydlu olrhain.

Mae’r cwrs hwn wedi’i anelu at fusnesau sydd am sefydlu systemau olrhain neu, i roi cipolwg i staff sy’n ymwneud â chwblhau gwaith papur proses ar olrhain, ei bwysigrwydd a’i gymhwysiad ymarferol. Bydd y gweithdy yn cynnwys gweithgareddau i ddangos ymarferion olrhain ymlaen ac yn ôl.

Costau presenoldeb

Yn dibynnu ar faint eich cwmni a’ch cymhwysedd, gall presenoldeb yn y gweithdai hyn gael ei ariannu’n rhannol neu’n llawn.

Bydd y gost ar gyfer pob cynrychiolydd sy’n mynychu’r gweithdy yn amrywio yn dibynnu ar faint y cwmni maent yn gweithio iddo. Mae hyn yn cael ei bennu gan reoliadau cyllido Llywodraeth Cymru.

Yn y ffurflen gofrestru ar gyfer y gweithdy, gofynnir i chi ddarparu gwybodaeth am Reoli Cymorthdaliadau y cwmni ar gyfer y tair blynedd diwethaf a chadarnhau maint eich cwmni. Cyfeiriwch at eich tîm busnes cyllid i sicrhau bod y wybodaeth hon yn gywir gan y gallai fod yn destun archwiliad.

I ddarllen mwy am Reoli Cymorthdaliadau, cliciwch yma.

Cofrestrwch nawr

  • Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Campws Llandaf
  • 23/9/2025
  • 09:30-13:30