Skip to main content
Chwiliwch y wefan

Gweithdy Arferion Gweithgynhyrchu Da (GMP) – Cofrestru eich Diddordeb

Sylwch — dim ond cynhyrchwyr bwyd a diod newydd a phresennol sydd wedi’u lleoli yng Nghymru a allant gofrestru ar gyfer y digwyddiad hwn, nid ydyw ar gyfer sefydliadau cysylltiedig, ymgynghorwyr neu fyfyrwyr.

Pwy all fynychu:

  • Yn ddelfrydol ar gyfer busnesau bach a chanolig  
  • Addas ar gyfer Sicrwydd Ansawdd, goruchwylwyr, cynhyrchu, peirianneg mewn swyddogaethau gweithgynhyrchu bwyd
  • Aelodau o staff sy’n ymwneud â chwblhau archwiliadau Arferion Gweithgynhyrchu Da mewn amgylchedd ffatri 

Gweithdy Arferion Gweithgynhyrchu Da

Mae Gweithdy Arferion Gweithgynhyrchu Da yn ddull strwythuredig o reoli 4 prif faes:

  • Pobl
  • Cynnyrch
  • Proses
  • Adeiladau

Pan gaiff Arferion Gweithgynhyrchu Da ei reoli’n dda, gall sbarduno gwelliant parhaus, ymddygiadau da a diwylliant mewn Gwneuthurwyr Bwyd a Diod.  Bydd dysgwyr yn deall sut i gofnodi a dogfennu canlyniadau Arferion Gweithgynhyrchu Da.

Bydd y sesiwn hon yn canolbwyntio ar beth a phwy sy’n ymwneud â chynnal Arferion Gweithgynhyrchu Da a bydd dysgwyr yn deall y camau syml y gall gweithgynhyrchwyr eu cymryd i sicrhau bod Arferion Gweithgynhyrchu Da yn cael ei reoli’n effeithlon ym mhob maes a grymuso staff i ddiffinio sut olwg sydd ar rywbeth ‘da’.

Agenda

Beth yw Arfer Gweithgynhyrchu Da? – gan gynnwys diffiniadau allweddol

  • Manteision Arferion Gweithgynhyrchu Da
  • 4 prif gategori – Pobl, Proses, Cynnyrch ac Adeiladau (y 4P).
  • Cysylltiadau rhwng rhagofynion Dadansoddi Peryglon a Phwynt Rheoli Critigol,
  • Sut i fesur a monitro Arferion Gweithgynhyrchu Da
  • Cyfathrebu â’r tîm i wella safonau’r safle.
  • Awgrymiadau ar gyfer Arferion Gweithgynhyrchu Da – byddwn yn archwilio camgymeriadau cyffredin y mae safleoedd yn eu gwneud wrth reoli Arferion Gweithgynhyrchu Da a sut mae ymddygiad a diwylliant yn gwella safonau Arferion Gweithgynhyrchu Da.

Cynhelir y gweithdai rhyngweithiol hyn yn eich safle gweithgynhyrchu i gynnwys y tîm ehangach a defnyddio sefyllfaoedd byw.

Costau presenoldeb

Yn dibynnu ar faint eich cwmni a’ch cymhwysedd, gellir ariannu mynychu’r gweithdai hyn yn rhannol neu’n llawn.

Bydd y gost i bob cynrychiolydd sy’n mynychu’r gweithdy yn amrywio yn dibynnu ar faint y cwmni y maent yn gweithio iddo. Mae hyn yn cael ei bennu gan reoliadau ariannu Llywodraeth Cymru.

Cofrestru eich Diddordeb

Os hoffech drafod hyfforddiant mwy manwl neu bwrpasol ar gyfer eich busnes, cysylltwch â ni drwy zero2five@cardiffmet.ac.uk am ragor o wybodaeth.

 

  • Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Campws Llandaf
  • I'w gadarnhau
  • I'w gadarnhau