Skip to main content
Chwiliwch y wefan

Stori llwyddiant: Trealy Farm Charcuterie

Cefndir

Wedi’i sefydlu yn 2004, mae Trealy Farm Charcuterie, sydd wedi’i leoli yn Sir Fynwy, yn cynhyrchu charcuterie crefftus arobryn gan ddefnyddio dulliau traddodiadol a’r cynhwysion o’r ansawdd gorau. Mae’r cwmni’n cynhyrchu ystod o dros ddeugain o gynhyrchion gwahanol gan gynnwys salami a chorizo yn ogystal â chigoedd wedi’u sychu yn yr awyr agored, eu halltu a’u coginio.

Mae Trealy Farm Charcuterie yn cyflenwi eu cynnyrch i fusnesau ledled y DU; o fwytai, cadwyni, delis, pizzerias a thafarndai, i westai, siopau fferm ac arlwywyr. Maent hefyd yn gwerthu eu cynnyrch yn uniongyrchol i gwsmeriaid trwy eu gwefan.

Trealy Farm logo

Trealy Farm Charcuterie product on a wooden board

Cefnogaeth gan ZERO2FIVE

Mae gan Trealy Farm Charcuterie hanes hir o weithio gyda Chanolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE, gyda’r cwmni’n derbyn cefnogaeth barhaus i gynnal eu hardystiad diogelwch bwyd SALSA.

Pan adawodd rheolwr technegol Trealy Farm Charcuterie y cwmni ym mis Mai 2024, camodd aelod arall o’r tîm o gefndir annhechnegol i’r rôl.

Er mwyn helpu i ddatblygu arbenigedd rheoli diogelwch bwyd y rheolwr technegol newydd, cynhaliodd technolegydd ZERO2FIVE sesiynau mentora un-i-un bob pythefnos, a oedd yn ymdrin ag amrywiaeth o bynciau gan gynnwys rheolaethau rhagofynnol, HACCP, dadansoddiad microbiolegol ac amgylcheddol ac ol-rheinedd.

Mynychodd y rheolwr technegol newydd Weithdy Parodrwydd ar gyfer Archwilio SALSA ZERO2FIVE hefyd, a helpodd y cynrychiolwyr i ddeall y broses archwilio SALSA, beth sy’n digwydd ar ôl archwiliad, sut i gyflwyno camau cywirol, ac adolygiad o’r 10 anghydffurfiaeth uchaf a sut i’w hosgoi.

Wrth baratoi ar gyfer archwiliad SALSA Trealy Farm Charcuterie, cynhaliodd ZERO2FIVE archwiliad mewnol o systemau rheoli diogelwch bwyd y cwmni a darparodd fentora pellach i’w helpu gydag unrhyw ddiweddariadau angenrheidiol.

Manteision y gefnogaeth

Arweiniodd rheolwr technegol newydd Trealy Farm Charcuterie y cwmni’n llwyddiannus trwy eu harchwiliad SALSA diweddaraf ym mis Chwefror 2025. Mae cynnal ardystiad SALSA yn hanfodol er mwyn galluogi’r cwmni i barhau i gyflenwi eu cwsmeriaid presennol.

Mae ZERO2FIVE eisoes yn cefnogi Trealy Farm Charcuterie gydag adolygiad pellach o’u systemau rheoli diogelwch bwyd a bydd yn darparu mentora ar gyfer unrhyw welliannau a argymhellir.

Dywedodd James Swift, Rheolwr Gyfarwyddwr, Trealy Farm Charcuterie: “Mae’r gefnogaeth gan ZERO2FIVE wedi bod yn amhrisiadwy wrth fentora ac uwchsgilio’r tîm technegol a’n tîm ehangach. Mae hyn yn ein galluogi i barhau i gynhyrchu cynhyrchion diogel ac o ansawdd uchel.”

HELIX Programme and Food and Drink Wales logos

Cysylltwch â ni

Os hoffech gael gwybod mwy am sut y gallwn helpu eich busnes neu os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cymorth y gallwn ei gynnig, yna cysylltwch â ni.

Cysylltwch â ni