Stori llwyddiant: Mallows Bottling Ltd
Cefndir
Wedi’i leoli yn Rhondda Cynon Taf, Mallows Bottling Ltd yw poteli contract gwirodydd a diodydd meddal mwyaf Cymru. Mae’r cwmni sydd wedi ennill sawl gwobr yn partneru â brandiau a manwerthwyr mawr, gyda gwasanaethau’n amrywio o ddatblygu cynnyrch i logisteg warws a rheoli’r gadwyn gyflenwi.
Mae Mallows Bottling Ltd wedi dal ardystiad BRCGS ers 2024 ac wedi cysylltu â ZERO2FIVE pan oeddent yn chwilio am gymorth i gynnal y safon. Yn un o gynlluniau ardystio diogelwch bwyd mwyaf blaenllaw’r byd, mae BRCGS yn galluogi gweithgynhyrchwyr i ddangos eu bod yn gweithredu yn unol â safonau diogelwch bwyd a gydnabyddir gan y diwydiant, ac o ganlyniad, yn cyflenwi eu cynnyrch i fanwerthwyr, cyfanwerthwyr a darparwyr gwasanaethau bwyd cenedlaethol a rhanbarthol.

Cymorth gan ZERO2FIVE
Cynhaliodd ZERO2FIVE gyfres o archwiliadau mewnol, diagnosteg a mentora yn erbyn gofynion safon BRCGS, gan ganolbwyntio ar gymalau sylfaenol fel HACCP, ymrwymiad uwch reolwyr, safonau’r safle a rheoli prosesau, yn ogystal â chymalau ychwanegol fel diogelu bwyd, cyfleusterau staff a hylendid personol.
Arweiniodd gwelliannau i’r system rheoli diogelwch bwyd a nodwyd yn ystod yr archwiliadau at fentora un – i – un wedi’i deilwra ar gyfer Technegydd Sicrhau Ansawdd y cwmni, gan ddatblygu eu gwybodaeth, eu sgiliau a’u gallu technegol. Fe wnaeth y gweithgareddau safle pwrpasol eu cynorthwyo i ddatblygu cynllun gweithredu cynhwysfawr cyn eu harchwiliad BRCGS sydd ar ddod. Roedd ZERO2FIVE hefyd yn ymgysylltu’n barhaus â thîm uwch arweinyddiaeth Mallows Bottling Ltd i adolygu arfer gorau’r diwydiant a chytuno ar gamau unioni, ynghyd ag amserlenni clir ar gyfer gweithredu.
Derbyniodd Mallows Bottling Ltd eu harchwiliad BRCGS ym mis Chwefror 2026 ac fe wnaethant basio gyda gradd AA. Yn dilyn yr archwiliad, cefnogodd ZERO2FIVE y cwmni i gau allan unrhyw anghydffurfiaethau.

Manteision y cymorth
Mae cynnal eu hardystiad BRCGS wedi galluogi Mallows Bottling Ltd i barhau i gyflenwi eu cwsmeriaid presennol sydd angen y safon yn ogystal â chychwyn trafodaethau gyda dau archfarchnad arall. O ganlyniad, mae Mallows Bottling wedi diogelu 22 o swyddi o fewn y busnes ac wedi creu 6 swydd ychwanegol.
Ers hynny, mae ZERO2FIVE wedi cefnogi’r cwmni i ddatblygu amserlen archwilio fewnol 12 mis, gan sicrhau bod pob archwiliad yn canolbwyntio ar faes allweddol gwahanol o safon BRCGS. Mae rhaglen mentora pellach a gwelliant parhaus hefyd wedi’i chynllunio ar gyfer Technegydd SichauAnsawdd Mallows Bottling Ltd , gan ganolbwyntio ar hanfodion safon BRCGS, gan gynnwys archwiliad mewnol, olrhain, ac ymrwymiad rheoli.
Dywedodd Abby Mallows, Technegydd Sicrhau Ansawdd, Mallows Bottling Ltd:
“Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae ZERO2FIVE wedi darparu cefnogaeth amhrisiadwy i Mallows Bottling Ltd trwy raglen o archwiliadau mewnol strwythuredig a chanllawiau technegol. Mae’r tîm wedi gweithio’n agos gyda ni i adolygu ein systemau yn erbyn gofynion Rhifyn 9 Bwyd BRCGS, herio ein harferion presennol, a nodi gwelliannau ymarferol, yn seiliedig ar risg. Nid yn unig y mae’r archwiliadau mewnol wedi cryfhau ein system rheoli ansawdd ond maent hefyd wedi helpu i ymgorffori diwylliant Arfer Gweithgynhyrchu Da cryfach ar draws y safle.
“Mae cefnogaeth glir, pragmatig ZERO2FIVE, a’i dull parod ar gyfer archwiliadau, wedi rhoi mwy o hyder inni cyn archwiliadau cwsmeriaid ac ardystio, gan gefnogi ein taith gwelliant parhaus ac atgyfnerthu ein hymrwymiad i ddiogelwch bwyd a rhagoriaeth ansawdd.’’

Cysylltwch â ni
Os hoffech gael gwybod mwy am sut y gallwn helpu eich busnes neu os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cymorth y gallwn ei gynnig, yna cysylltwch â ni.