Stori llwyddiant: Brew and Breathe
Cefndir
Wedi’i leoli yng Nghaerdydd, mae Brew and Breathe yn gynhyrchydd newydd o de llysieuol moethus wedi’u gwneud â llaw. Mae eu cyfuniadau unigryw yn ymgorffori cynhwysion o ansawdd uchel, moesegol a chynaliadwy sy’n creu profiadau synhwyraidd sy’n annog pobl i arafu ac ailgysylltu.
Mae Brew and Breathe wedi’i sefydlu gan Jenni Edwards, entrepreneur sydd â dau ddegawd o brofiad mewn cadwyni cyflenwi byd-eang moesegol, sy’n gweithio i wneud busnes yn well i bobl a’r blaned.
Gan nad yw Jenni o gefndir diogelwch bwyd, cysylltodd â ZERO2FIVE am gymorth pan oedd yn y broses o ddatblygu ei hystod newydd o de.
Cymorth gan ZERO2FIVE
Darparodd arbenigwyr technegol ZERO2FIVE fentora un-i-un i gefnogi Brew and Breathe gyda datblygu cynllun rheoli diogelwch bwyd HACCP pwrpasol ar gyfer eu hystod o gymysgeddau te llysieuol.
Cefnogwyd Brew and Breathe gydag asesiad risg i nodi peryglon diogelwch bwyd posibl a chawsant eu helpu hefyd i adolygu eu manylebau deunyddiau crai i wneud yn siŵr bod eu cynhwysion yn ddiogel i’w defnyddio. Yn olaf, cynorthwywyd Brew and Breathe gyda labelu cynnyrch i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â’r rheoliadau.

Manteision o’r cymorth
Derbyniodd Brew and Breathe eu harolygiad iechyd amgylcheddol ym mis Medi 2025 ac roedden nhw’n falch iawn o dderbyn sgôr hylendid bwyd o bump. O ganlyniad, mae’r cwmni wedi cofrestru’n llwyddiannus fel gwneuthurwr bwyd gyda’u hawdurdod lleol, a gallant nawr ddechrau gwerthu eu cynhyrchion.
Lansiwyd Brew and Breathe ym mis Hydref 2025 a byddant yn gwerthu eu te yn uniongyrchol i gwsmeriaid trwy eu gwefan yn ogystal â mewn marchnadoedd ffermwyr lleol.
Jenni Edwards, Sylfaenydd, Brew and Breathe: “Mae’r cymorth gan ZERO2FIVE wedi bod yn hollol amhrisiadwy. Fel busnes bwyd newydd, gall deimlo’n frawychus cael popeth yn iawn, ond gwnaeth eu tîm y broses yn glir, ymarferol ac adeiladu hyder o’r dechrau i’r diwedd. Mae eu canllawiau nid yn unig wedi ein helpu i gyflawni ein sgôr hylendid bwyd 5 seren ond hefyd yn ein gosod gyda sylfeini cadarn i dyfu’n gynaliadwy.”

Cysylltwch â ni
Os hoffech gael gwybod mwy am sut y gallwn helpu eich busnes neu os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cymorth y gallwn ei gynnig, yna cysylltwch â ni.