Skip to main content
Chwiliwch y wefan

Pa mor ddiogel yw eich safle gweithgynhyrchu a pham ei fod mor bwysig?

3 min read 15/09/2026

Kate Bailey superimposed over a factory gate

O ran gweithgynhyrchu bwyd a diod, mae diogelwch safle da yn hanfodol ar gyfer lleihau’r risg o difrodi neu ladrad gan dresbaswyr heb awdurdod. Gall y ddau gael canlyniadau difrifol o safbwynt diogelwch bwyd ac ariannol.

Mae mesurau diogelwch ffisegol, gweithdrefnau a systemau’r cwmni, a gwyliadwriaeth staff i gyd yn hanfodol o ran lleihau risg a sicrhau bod mynediad i’r safle gan staff, contractwyr (gan gynnwys gyrwyr) ac ymwelwyr yn cael ei reoli.

Dyma ychydig o ystyriaethau allweddol i sicrhau bod gweithdrefnau diogelwch eich safle mor gryf â phosibl:

  • Perimedr y safle – A yw gatiau eich safle yn cael eu cadw ar gau neu, os na, a ydynt yn cael eu monitro’n gyson? A oes unrhyw wendidau yn eich ffensys neu waliau allanol lle gallai tresbaswyr gael mynediad heb gael eu sylwi?
  • Mynediad i’r adeilad – A yw’r holl ddrysau allanol a phwyntiau mynediad wedi’u cloi? Os na, a ydynt yn cael eu goruchwylio gan aelod priodol o staff fel derbynnydd neu warchodwr diogelwch neu’n cael eu monitro gan gamera drws?
  • Mynediad i ddanfoniadau – A yw mynediad i faeau llwytho a mannau danfoniadau wedi’u rheoli neu a oes rhwystrau ar waith sy’n sicrhau mai dim ond cerbydau awdurdodedig sydd â mynediad?
  • Arwyddion – Oes gennych chi arwyddion gweledol clir yn egluro’r camau y mae’n ofynnol i ymwelwyr, contractwyr, staff asiantaeth a gyrwyr eu dilyn i gael mynediad i’r safle ac sy’n rhybuddio nad oes mynediad heb awdurdod ar y safle?
  • System adrodd ymwelwyr – A yw pob ymwelydd â’r safle yn cael ei gyfarch gan aelod o staff ac yn ofynnol iddynt fewngofnodi ac allgofnodi gydag amseroedd cyrraedd ac ymadael? Ydych chi’n cadw cofnod dyddiol o unrhyw ymwelwyr disgwyliedig neu staff asiantaeth sy’n gweithio ar y safle ac yn gofyn i’w gwesteiwr eu casglu o’r dderbynfa fel mai dim ond ymwelwyr a phersonél awdurdodedig sydd â mynediad i ardaloedd cynhyrchu?
  • Rheolau’r safle – A yw ymwelwyr a chontractwyr yn ymwybodol o reolau’r safle, gan gynnwys gofynion sy’n ymwneud â mynediad i’r safle?
  • Bathodynnau ymwelwyr – A oes gofyn i ymwelwyr safle wisgo bathodyn ymwelydd bob amser?
  • Rheolaethau symud mewnol – A oes rhwystrau ffisegol ar waith sy’n atal mynediad i ardaloedd cynhyrchu neu swyddfeydd? Er enghraifft, mae drysau mewnol wedi’u cloi a dim ond aelodau staff parhaol sydd â chliriad diogelwch priodol sydd â mynediad.
  • Ymwybyddiaeth staff a diwylliant herio – A yw staff wedi’u hyfforddi yng ngweithdrefnau diogelwch y safle ac yn cael eu hannog i aros yn wyliadwrus a herio unrhyw un anghyfarwydd ar y safle? A yw staff wedi’u hyfforddi i beidio â dal drysau ar agor i ymwelwyr ar eu pen eu hunain?
  • Ardaloedd cynhyrchu – A oes rhwystrau ffisegol neu a oes goruchwyliaeth ar waith sy’n atal mynediad at gynhyrchion a pheiriannau? Er enghraifft, mae contractwyr sy’n gweithio mewn ardaloedd prosesu neu storio cynnyrch yn gyfrifoldeb person enwebedig ar y safle.
  • Cyfarpar Diogelu Personol (PPE) Ymwelwyr – A oes gofyn i ymwelwyr awdurdodedig, contractwyr a gweithwyr asiantaeth wisgo PPE penodol sy’n eu gwneud yn hawdd eu hadnabod mewn ardaloedd cynhyrchu?
  • Bregusrwydd ar adegau penodol – A oes gan eich safle fregusrwydd ar adegau penodol sydd angen eu monitro’n agos? e.e. amseroedd dechrau a gorffen sifftiau, amseroedd cyrraedd gweithwyr asiantaeth, yn ystod tywydd poeth neu pan fydd aelodau penodol o staff ar wyliau blynyddol.

Os hoffai eich cwmni i ZERO2FIVE asesu effeithiolrwydd diogelwch eich safle trwy brawf her go iawn, cysylltwch â ni i drafod y gefnogaeth a ariennir sydd ar gael trwy Raglen HELIX Llywodraeth Cymru.

Kate Bailey Uwch Technolegydd Bwyd Canolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE

Cysylltwch â ni

Os hoffech gael gwybod mwy am sut y gallwn helpu eich busnes neu os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cymorth y gallwn ei gynnig, yna cysylltwch â ni.

Cysylltwch â ni