Skip to main content
Chwiliwch y wefan

Mae cwmnïau bwyd a diod o Gymru yn elwa o gymorth wedi’i ariannu i leihau gwastraff

3 min read 14/03/2024

ZERO2FIVE Waste reduction staff checking weight of a food product
ZERO2FIVE Waste reduction staff

​Mae cwmnïau bwyd a diod o Gymru yn cael eu hannog i fanteisio ar gymorth gan brosiect a gefnogir gan Lywodraeth Cymru sy’n ceisio lleihau gwastraff yn y gadwyn gyflenwi bwyd a diod.

Mae’r alwad i weithredu yn cyd-daro ag Wythnos Gweithredu ar Wastraff Bwyd 2024 Hoffi Bwyd Casáu Gwastraff (18fed – 24ain Mawrth), ymgyrch flynyddol sy’n dod â busnesau, sefydliadau’r llywodraeth a phartneriaid byd-eang ynghyd i weithio tuag at haneru gwastraff bwyd erbyn 2030.

Mae Prosiect HELIX, a ddarperir gan Arloesi Bwyd Cymru, partneriaeth o dair canolfan fwyd ledled Cymru, yn cynnig amrywiaeth o gymorth lleihau gwastraff a ariennir, gan gynnwys archwiliadau gwastraff, adolygu a dilysu targedau gwastraff, a nodi defnyddiau amgen ar gyfer cynhyrchion gwastraff.

Mae Canolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, un o’r tair canolfan bartner sy’n ffurfio Arloesi Bwyd Cymru, eisoes wedi cefnogi cwmnïau ledled de Cymru i nodi dros 89,000 cilogram o wastraff bwyd y gellir ei osgoi gyda gwerth o dros £400,000.

Un cwmni sydd wedi elwa o gymorth gwastraff drwy Brosiect HELIX yw Just Love Food Company, sydd wedi’i leoli yng Nghaerffili ac sy’n gwerthu eu dewis arobryn o gacennau dathlu sy’n gyfeillgar i alergeddau i lawer o fanwerthwyr a siopau gwasanaeth bwyd mwyaf y DU.

Cynhaliodd ZERO2FIVE archwiliad o brosesau gweithgynhyrchu Just Love ar gyfer dau o’u cynhyrchion mwyaf poblogaidd i amlygu colledion gwastraff posibl ac aneffeithlonrwydd cynhyrchu a allai arwain at gostau uwch a cholli amser a llafur.

Adroddwyd ar ddata’r archwiliad yn ôl i Just Love mewn ffordd a allai eu helpu i ddeall yn gyflym ac yn glir effaith gwastraff ar eu busnes ac amlygu meysydd i’w gwella yn y dyfodol. Hefyd cyflwynodd ZERO2FIVE gyfres o weithdai lleihau gwastraff i staff yn Just Love i helpu i ysgogi newid mewn diwylliant ledled y cwmni.

Dywedodd Mike Woods, Prif Weithredwr Just Love Food Company:

“Mae dull proffesiynol ZERO2FIVE o fesur gwastraff ar bob cam o’n proses gynhyrchu a rhoi gwerth i’r gwastraff hwnnw wedi ein helpu ni’n wirioneddol i ddeall gwerth y cyfle. 

“Mae Prosiect HELIX yn cynnig dull agored a chydweithredol iawn o rannu gwybodaeth a chwestiynu pam mae gwastraff yn digwydd. Drwy rannu eu harbenigedd, bydd yn ein galluogi i wella ein galluoedd a gwneud lleihau gwastraff yn ffordd naturiol o weithredu ar bob lefel o’r busnes.”

Cwmni arall sydd wedi elwa o gymorth lleihau gwastraff trwy Brosiect HELIX yw Juvela, gwneuthurwr bwydydd arbenigol heb glwten o Bont-y-pŵl ar gyfer pobl sydd wedi cael diagnosis o glefyd coeliag.

Cefnogodd tîm Lleihau Gwastraff ZERO2FIVE y cwmni i greu offeryn pwrpasol a oedd yn symleiddio eu proses datblygu ryseitiau, gan ddod â chyflymder a manwl gywirdeb i dreialon cynnyrch a lleihau gwastraff amser a deunydd crai.

Dywedodd Nathan Hodges, Rheolwr Datblygu Cynnyrch Newydd, Juvela:

“Diolch i ZERO2FIVE am rannu eu gwybodaeth a’u harbenigedd, mae gennym bellach system sydd nid yn unig yn arbed amser i ni ond sydd hefyd yn lleihau gwastraffu deunyddiau crai, rhywbeth sy’n hollbwysig wrth gynhyrchu bwyd a datblygu cynnyrch newydd.”

Dywedodd Gavin Taylor, Uwch Dechnolegydd Lleihau Gwastraff Proses, Canolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE:

“Mae lleihau gwastraff a gwelliannau effeithlonrwydd yn hanfodol i’r sector bwyd a diod yng Nghymru o safbwynt cynaliadwyedd amgylcheddol ac ariannol. Mae’r pwysau ar gynhyrchwyr bwyd a diod yng Nghymru yn aruthrol, ond mae Prosiect HELIX yma i ddarparu cymorth gwastraff ar lawr y ffatri.”

Cysylltwch â ni i gael gwybod mwy am y cymorth gwastraff a ariennir sydd ar gael gan Ganolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE ac Arloesi Bwyd Cymru.

Cysylltwch â ni

Os hoffech gael gwybod mwy am sut y gallwn helpu eich busnes neu os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cymorth y gallwn ei gynnig, yna cysylltwch â ni.

Cysylltwch â ni