Mae cwmni cacennau o Flaenau Gwent, sy’n dathlu ei ben-blwydd yn 35ain oed yn 2026, wedi tyfu’n llwyddiannus dros y degawd diwethaf diolch i gefnogaeth barhaus gan Raglen HELIX Llywodraeth Cymru.
Wedi’i leoli yn Nglyn Ebwy, mae Clam’s Handmade Cakes yn cynhyrchu cacennau wedi’u gwneud â llaw, sy’n cael eu cyflenwi i siopau coffi a chaffis ledled y DU. Wedi’i sefydlu ym 1991 gan Jane Phillips, mae’r busnes teuluol wedi derbyn 18 Gwobr Great Taste ac wedi cael ei enwi’n flaenorol fel ‘becws crefft gorau Cymru’ yng Ngwobrau Pobi Prydain.
Ers 2013, mae Canolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd wedi darparu amrywiaeth o gymorth technegol a ariennir gan Lywodraeth Cymru i Clam’s, gan gynnwys cymorth i sicrhau a chynnal ardystiad SALSA, paratoi ar gyfer archwiliadau cwsmeriaid, a chymorth gyda datblygu cynhyrchion newydd ac effeithlonrwydd prosesau.
Yn 2025, cysylltodd Clam’s â ZERO2FIVE pan oeddent yn edrych i fabwysiadu dull sy’n seiliedig ar ddata o olrhain llif cynhyrchu a monitro gwastraff. Arweiniodd hyn at arbenigwyr gwastraff ZERO2FIVE yn datblygu teclyn cronfa ddata pwrpasol ar gyfer Clam’s y gellid ei ddefnyddio gan weithwyr cynhyrchu i gadw golwg ar gynhyrchion wrth iddynt gael eu cynhyrchu mewn amser go-iawn.
Bellach mae gan y cwmni fynediad hawdd at ystod o ddata megis nifer o bobi dyddiol, yr unedau disgwyliedig o’u cymharu â’r unedau gwirioneddol, unedau a gollwyd wrth bobi, a chyfanswm y cynnyrch. O ganlyniad, gall Clam’s fod yn rhagweithiol wrth ymateb i faterion, gan gynnwys a fydd allbwn cynhyrchu yn bodloni’r gyfaint sydd ei angen i gyflawni archebion a pha gynhyrchion neu ffyrnau sy’n fwy tebygol o gynhyrchu gwastraff.
Sicrhaodd Clam’s ardystiad SALSA cyntaf yn 2014 gyda chefnogaeth ZERO2FIVE. Un o’r cynlluniau ardystio diogelwch bwyd mwyaf cydnabyddedig yn y DU, mae SALSA yn galluogi gweithgynhyrchwyr llai i ddangos eu bod yn gweithredu yn unol â safonau diogelwch bwyd a gydnabyddir gan y diwydiant. O ganlyniad, mae Clam’s wedi gallu tyfu eu busnes drwy gyflenwi eu cynnyrch i ddarparwyr gwasanaethau bwyd cenedlaethol.
Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae ZERO2FIVE wedi helpu’r cwmni i gynnal eu hardystiad drwy eu cefnogi gyda gwelliant parhaus safonau hylendid y safle, arferion gweithgynhyrchu da, gwirio gweithdrefnau glanhau a mentora parhaus cynorthwyydd technegol a ymunodd â Clam’s yn wreiddiol fel gweithredwr cynhyrchu.
Pasiodd Clam’s eu harchwiliad SALSA diweddaraf ym mis Medi 2025 ochr yn ochr â dau archwiliad mawr o gwsmeriaid gwasanaeth bwyd. Mae llwyddo i basio’r archwiliadau hyn wedi galluogi’r cwmni i lansio pum cynnyrch newydd a diogelu 26 o swyddi o fewn y busnes.
Wrth siarad am effaith y gefnogaeth, dywedodd Lewis Phillips, Cyfarwyddwr Cynhyrchu, Clam’s Cakes:
“Mae ZERO2FIVE wedi bod yn bartneriaid amhrisiadwy i ni ers dros ddegawd bellach. Mae eu harbenigedd amrywiol mewn rheoli diogelwch bwyd, datblygu cynhyrchion newydd a lleihau gwastraff i gyd wedi ein helpu i dyfu a datblygu fel busnes mewn gwahanol ffyrdd. Eleni rydym yn dathlu carreg filltir arall yn ein hanes, ac rydym yn gobeithio parhau i weithio gyda ZERO2FIVE am flynyddoedd lawer i ddod.”
Dywedodd yr Athro Peter Sykes, Pennaeth Canolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE:
“Mae’n wych gweld cwmni lleol fel Clam’s Cakes yn dal i fynd o nerth i nerth ar ôl 35 mlynedd o fasnachu. P’un a ydych chi’n gwmni sydd wedi hen ennill ei blwyf yng Nghymru neu’n fusnes newydd sy’n dod o hyd i’ch traed, byddem yn eich annog i gysylltu i drafod yr amrywiaeth o gefnogaeth a ariennir gan Lywodraeth Cymru y gallwn ei chynnig.”