Skip to main content
Chwiliwch y wefan

Cyflwyniad i Weithdy Rheoli Newid

Sylwer – Mae cofrestru ar gyfer y digwyddiad hwn ar gael i wneuthurwyr bwyd a diod newydd a phresennol sydd wedi’u lleoli yng Nghymru yn unig, nid ar gyfer sefydliadau cysylltiedig, ymgynghorwyr neu fyfyrwyr.

Pwy all fynychu

Wedi’i gynllunio’n benodol ar gyfer y sector bwyd a diod, mae’r gweithdy hwn yn ddelfrydol ar gyfer aelodau tîm amlddisgyblaethol h.y. y rhai sy’n ymwneud â rheoli a gweithredu newid yn y gweithle, gall gynnwys:

  • Staff technegol, hylendid ac ansawdd
  • Rheolwyr gweithrediadau a chynhyrchu
  • Datblygiad cynnyrch newydd
  • Datblygu prosesau
  • Peirianneg a chynnal a chadw
  • Caffael
  • Rheolwyr safle ac uwch ac ati.

Yn y diwydiant bwyd a diod sy’n symud yn gyflym heddiw, mae newid yn gyson. P’un a yw’n cyflwyno cynnyrch newydd, gosod offer, ail-lunio ryseitiau, newid cyflenwyr, pecynnu neu wella prosesau, rhaid i fusnesau bwyd a diod sicrhau bod newid yn cael ei asesu, ei reoli, ei gyfathrebu a’i weithredu’n ddiogel yn ofalus.

Yn y gweithdy rhagarweiniol hwn, byddwn yn ymdrin â’r meysydd canlynol:

  • Mathau o newid 
  • Sut i gofleidio newid
  • Rheoli newid o fewn safonau bwyd a diod
  • Rheoli’r broses newid
  • Arfer gorau ar gyfer meistroli newid

Bydd y gweithdai rhyngweithiol hyn yn cael eu cynnal yng Nghanolfan y Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE yng Nghaerdydd.

Costau presenoldeb

Yn dibynnu ar faint a chymhwysedd eich cwmni, gall presenoldeb yn y gweithdai hyn gael ei ariannu’n rhannol neu’n llawn.

Bydd y gost ar gyfer pob cynrychiolydd sy’n mynychu’r gweithdy yn amrywio yn dibynnu ar faint y cwmni maen nhw’n gweithio iddo. Mae hyn yn cael ei bennu gan reoliadau cyllido Llywodraeth Cymru.

Yn y ffurflen gofrestru’r gweithdy, gofynnir i chi ddarparu gwybodaeth am Reoli Cymhorthdal y cwmni am y tair blynedd diwethaf a chadarnhau maint eich cwmni. Cyfeiriwch at eich tîm busnes cyllid i sicrhau bod y wybodaeth hon yn gywir gan y gallai fod yn destun archwiliad. I ddarllen mwy am Rheoli Cymhorthdaliadau, cliciwch yma.

Cofrestrwch nawr

Os hoffech drafod hyfforddiant mwy manwl neu bwrpasol ar gyfer eich busnes, cysylltwch â ni drwy zero2five@cardiffmet.ac.uk am ragor o wybodaeth.

HELIX Programme and Food and Drink Wales logos

  • Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Campws Llandaf
  • 14/07/2026
  • 09:30-13:30