Skip to main content
Chwiliwch y wefan

Cwmni peis Caerdydd yn llunio llwybr ehangu gyda chefnogaeth gan raglen a ariennir gan Lywodraeth Cymru

3 min read 15/06/2026

Harri Owain Rees and Gareth

Mae cwmni peis o Gaerdydd wedi llwyddo i ddod â gweithgynhyrchu’n fewnol ac wedi cynyddu ei gapasiti cynhyrchu deg gwaith, yn dilyn cymorth technegol gan Raglen HELIX Llywodraeth Cymru.

Mewn dim ond deunaw mis o fasnachu, mae Donald’s Pies wedi ehangu’n gyflym i fod yn ofod gweithgynhyrchu pwrpasol ac wedi agor dwy siop fanwerthu barhaol, gyda chymorth technegol gan Ganolfan Bwyd Cymru a Chanolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE.

Sefydlwyd Donald’s Pies gan Gareth Owens a Harri Rees yn 2024, ac fe’i hysbrydolwyd gan deithiau Gareth yn Seland Newydd, lle mae diwylliant pasteiod wedi’i hen sefydlu, a chan ei ddiweddar daid Donald, a oedd yn hoff iawn o beis. Lansiwyd y busnes yn wreiddiol fel siop dros dro o fan yng Nghlwb Criced Radyr yng Nghaerdydd cyn agor ei siop bastai barhaol gyntaf ym mis Hydref 2024.

Ym mis Ionawr 2025, cysylltodd Donald’s Pies â Chanolfan Bwyd Cymru, rhan o Gyngor Sir Ceredigion, pan benderfynodd y cwmni ddod â chynhyrchu peis yn fewnol yn hytrach na pharhau i allanoli gweithgynhyrchu.

Wedi’i chyflwyno gan bedair canolfan fwyd ledled Cymru, mae Rhaglen HELIX Llywodraeth Cymru yn darparu cymorth technegol ac arloesi wedi’i ariannu i gynhyrchwyr bwyd a diod.

Drwy Raglen HELIX, cefnogodd technolegwyr yng Nghanolfan Bwyd Cymru Donald’s Pies gyda datblygu ryseitiau i sicrhau y gellid cynhyrchu eu peis yn gyson ac yn ddiogel ar raddfa fwy. Roedd y gefnogaeth hefyd yn cynnwys datblygu cynllun rheoli diogeledd bwyd HACCP, profion microbiolegol, a chanllawiau maethol a labelu i sicrhau cydymffurfiaeth â deddfwriaeth. Yn ogystal, cefnogwyd y cwmni gyda threialon cynhyrchu cyn dechrau rhentu cyfleusterau gweithgynhyrchu masnachol Canolfan Bwyd Cymru ar gyfer cynhyrchu mewnol.

Wrth i peis a choffi’r cwmni ddatblygu dilyniant yn gyflym yng Nghaerdydd, cymerodd y busnes y cam nesaf trwy chwilio am safle gweithgynhyrchu mwy o faint, pwrpasol yn y ddinas. Fel rhan o’r broses hon, atgyfeiriwyd Donald’s Pies at Ganolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd am gymorth pellach ym mis Tachwedd 2025. Cynorthwyodd ZERO2FIVE gyda chynllun a dyluniad yr uned weithgynhyrchu newydd i sicrhau diogeledd bwyd ac optimeiddio prosesau cynhyrchu. Fe wnaethon nhw hefyd adolygu cynllun HACCP y cwmni i sicrhau ei fod yn addas ar gyfer y cyfleuster newydd.

Mae gofod gweithgynhyrchu newydd Donald’s Pies yng Nghaerdydd bellach yn gwbl weithredol, a bydd yn galluogi’r busnes i gynyddu cynhyrchiant o 25,000 i 250,000 o peis o flwyddyn. Bydd hyn yn creu’r capasiti sydd ei angen i wasanaethu cwsmeriaid presennol yn eu hail siop a agorwyd yn ddiweddar yng Nghaerdydd yn ogystal â sicrhau partneriaid cyfanwerthu newydd, gan gynnwys tafarndai, clybiau chwaraeon ac atyniadau twristaidd ledled Cymru a thu hwnt.

Dywedodd Gareth Owens, Perchennog Donald’s Pies:

“Mae’r gefnogaeth rydyn ni wedi’i chael gan Raglen HELIX wedi bod yn rhagorol. O gynhyrchu ein peis yn fewnol i symud i’n huned weithgynhyrchu fwy ein hunain yng Nghaerdydd, mae’r gefnogaeth gan Ganolfan Bwyd Cymru a ZERO2FIVE wedi ein galluogi i dyfu’n gyflym ac yn llyfn.”

Dywedodd Angela Sawyer, Rheolwr Canolfan Bwyd-Amaeth yng Nghanolfan Bwyd Cymru:

“Mae’r arbenigedd technegol sydd ar gael drwy Raglen HELIX wedi bod yn allweddol wrth helpu Donald’s Pies i symud o gynhyrchu ar raddfa fach i weithgynhyrchu ar raddfa lawn. Mae’r cyfuniad o gefnogaeth gydag arloesedd cynnyrch, effeithlonrwydd gweithredol a systemau rheoli diogeledd bwyd cadarn wedi helpu’r cwmni i sefydlu sylfaen gref a chynaliadwy ar gyfer twf parhaus.”

Dywedodd yr Athro Peter Sykes, Pennaeth Canolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE:

“O fusnesau newydd i gwmnïau mawr sefydledig, mae Rhaglen HELIX yn darparu ystod eang o gymorth technegol i helpu i adeiladu busnesau bwyd a diod yng Nghymru sy’n fwy arloesol, gwydn a llwyddiannus. Gyda chanolfannau bwyd ledled Cymru, mae cefnogaeth wrth law lle bynnag y mae eich cwmni wedi’i leoli.”

Cysylltwch â ni

Os hoffech gael gwybod mwy am sut y gallwn helpu eich busnes neu os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cymorth y gallwn ei gynnig, yna cysylltwch â ni.

Cysylltwch â ni