Croesawyd pobwyr o bob rhan o Gaerdydd yn ddiweddar gan Ganolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE Prifysgol Metropolitan Caerdydd i gystadlu yn erbyn tîm Heddlu De Cymru mewn her bobi a oedd â’r bwriad o hyrwyddo cydlyniad cymunedol.
Heriwyd pum aelod o staff a swyddogion Heddlu De Cymru gan bum pobydd amatur mewn cystadleuaeth a drefnwyd gan y Ditectif Prif Arolygydd Eve Davies a Cheryl Pinheiro o Women Connect First. Gwirfoddolodd pum menyw o gymunedau Tunisiaidd, Sudaneaidd ac Yemenïaidd yng Nghaerdydd i gymryd rhan yn y digwyddiad.
Yn ogystal â chefnogi’r fenter gymunedol, defnyddiwyd y digwyddiad gan Ganolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE i gyflwyno’r menywod i’r cyfleusterau, cyrsiau a’r cyfleoedd cyflogaeth a gynigir ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd. Roedd hyn yn cynnwys taith a gweithio ochr yn ochr â staff ZERO2FIVE yng ngheginau datblygu’r Ganolfan Diwydiant Bwyd.
Dywedodd Helen Taylor, Cyfarwyddwr Technegol yn ZERO2FIVE:
“Roedd hwn yn ddigwyddiad pwysig ar gyfer Heddlu De Cymru a Women Connect First ac roeddem yn falch o fedru cefnogi eu gwaith o ddod â chymunedau ynghyd. I ni, roedd yn gyfle i groesawu pobl i’r brifysgol nad oeddent efallai wedi ymweld â hi erioed o’r blaen a rhoi cipolwg iddynt ar y gwaith a wnawn.
“Byddem wrth ein boddau pe gallem, drwy ddigwyddiadau fel y rhain, ysbrydoli entrepreneuriaid bwyd posibl y dyfodol i ddatblygu eu sgiliau i’r lefel nesaf.”
Dywedodd y Ditectif Prif Arolygydd Eve Davies:
“Fel arweinydd yr heddlu ar gyfer cam-drin a thrais domestig, rwy’n deall bod cam-drin a thrais domestig yn drosedd sy’n effeithio ar fenywod yn anghymesur.
“Creodd y digwyddiad hwn gyfle i ymgysylltu â menywod na fyddent efallai wedi dod i gysylltiad â swyddogion yr heddlu neu aelodau staff yr heddlu o’r blaen ac rwy’n gobeithio y bydd yn cyfrannu rhywfaint tuag at chwalu rhwystrau a meithrin ymddiriedaeth a hyder.
“Rwy’n gobeithio hefyd fod y digwyddiad wedi hyrwyddo’r cyfle y gallai plismona fod yn opsiwn ar gyfer gyrfa. Dewisom gynnal y digwyddiad ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd fel y gallai’r menywod hefyd ddarganfod mwy am y cyrsiau ac addysg sydd ar gael iddynt,” dywedodd.
Beirniadwyd prif ddigwyddiad y frwydr bobi gan y Prif Uwch-arolygydd Wendy Gunney, Prif Swyddog Gweithredol Women Connect First, Maria Contstanza Mesa, a’r entrepreneur Maggie Ogunbanwo. Enillydd y gystadleuaeth oedd Mounira Debbabi gyda’i rysáit ar gyfer tagine llysiau a chig.
Dywedodd Maria Contstanza Mesa, Prif Swyddog Gweithredol Women Connect First:
“Un o’n prif nodau yw gweithio mewn partneriaeth â chwmnïau a sefydliadau fel Heddlu De Cymru a Phrifysgol Metropolitan Caerdydd i wneud amrywiaeth ehangach o swyddi’n fwy hygyrch i gymunedau amrywiol.
“Gall digwyddiadau fel y frwydr bobi wirfoddol hon – er eu bod nhw’n ymddangos yn syml – fod yn rymus iawn o ran denu pobl o gefndiroedd difreintiedig ac amrywiol i amgylcheddau newydd lle gallant ddysgu gyda’i gilydd, cefnogi ei gilydd a hyrwyddo dealltwriaeth ac integreiddio gwell,” dywedodd.