Skip to main content
Chwiliwch y wefan

ZERO2FIVE yn lansio gwasanaethau profi arogl a blas newydd i BBaCh yng Nghymru

3 min read 15/08/2022

Matt Bates - Analytical Chemist at ZERO2FIVE

Mae Canolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd wedi ehangu ei gwasanaethau profi blas ac arogl ar ôl penodi’r fferyllydd dadansoddol, Matt Bates.

Mae Matt yn arbenigo mewn samplu a dadansoddi cyfansoddion organig anweddol (COA), y cyfansoddion cemegol sy’n gyfrifol am yr aroglau a’r blasau rydyn ni’n eu hadnabod yn ein bwyd, ein diodydd a’n persawrau.

Mae’r gwasanaethau dadansoddol gwell hyn, sydd fel arfer ar gael i fusnesau bwyd rhyngwladol mawr yn unig, bellach ar gael i BBaCh o Gymru drwy gyfrwng project HELIX a ariennir gan Lywodraeth Cymru.

Mae gan Ganolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE ganolfan asesu synhwyraidd sydd wedi hen ymsefydlu, lle gall cwmnïau brofi cynhyrchion gyda phanel synhwyraidd o ddefnyddwyr. Mae penodi Matt, a buddsoddi’n ychwanegol mewn offer dadansoddol, yn ychwanegu dimensiwn newydd at y galluoedd profi, gan alluogi cwmnïau i adnabod cyfansoddion neu nodweddion penodol sy’n bresennol mewn cynhwysion a chynhyrchion terfynol sy’n cyfateb i flasau ac aroglau penodol.

Astudiodd Matt am radd Meistr mewn Cemeg a Ffrangeg ym Mhrifysgol Manceinion cyn gweithio i Lywodraeth Ffrainc yn datblygu systemau monitro ar gyfer dod i gysylltiad â thocsinau anweddol dan do ac yn yr awyr agored. Ers hynny, mae ei yrfa wedi’i arwain dros y byd i gyd, wrth weithio ar brosiectau mor amrywiol â monitro COA niweidiol o amgylch Adeilad y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Adran Dân Efrog Newydd; nodi arogleuon drwg mewn gweithfeydd trin dŵr yn y Dwyrain Pell; datblygu technegau canfod i ddod o hyd i oroeswyr sy’n sownd mewn adeiladau sydd wedi dymchwel; ac yn agosach at adref, nodi cyfansoddion sy’n arwydd o oes silff wedi’u cwtogi mewn ffrwythau a llysiau wedi’u pecynnu sy’n barod i’w bwyta (RTE).

Mae Matt yn frwd dros bopeth yn ymwneud â phersawrau ac aroglau, ac fe sefydlodd ei fusnes ei hun yn 2014 yn gweithio gydag amrywiaeth o gwmnïau o’r radd flaenaf i ymchwilio i COA mewn cynhyrchion defnyddwyr yn ogystal ag yn ehangach wrth ddatblygu dulliau a monitro amgylcheddol.

Wrth sôn am ei benodiad, dywedodd Matt:

“Mae’r gwasanaeth gwell hwn yn rhoi mynediad i fusnesau BBaCh cymwys yma yng Nghymru at lefel o ddadansoddi COA sydd fel arfer wedi’i neilltuo i gwmnïau sy’n gallu buddsoddi’n sylweddol yn y math hwn o ymchwil. 

“Mae hon yn dechnoleg ddadansoddol bwerus. Er enghraifft, rydym eisoes wedi gallu helpu cynhyrchydd cig lleol i ddangos bod modd canfod y math o borfa y mae anifeiliaid yn pori arno ym mhroffil blas y cynnyrch gorffenedig” meddai.

Un o’r prosiectau sydd newydd ei gwblhau gan dîm ZERO2FIVE yw un gyda busnes diodydd o Sir Fynwy, Old Coach House Distillery Ltd. Maen nhw’n cynhyrchu STILLERS, casgliad o ddiodydd botanegol wedi’u distyllu a wnaed â llaw, sy’n ddi-alcohol ac wedi’u hysbrydoli gan jin.

Mae’r defnydd o gynhwysion naturiol yn y broses ddistyllu draddodiadol yn ganolog i’r brand. Gan weithio gyda ZERO2FIVE, llwyddodd tîm yr Old Coach House i gadarnhau presenoldeb y blasau ac aroglau botanegol naturiol i gyd yn y cynnyrch gorffenedig, drwy brofi gyda phanel o ddefnyddwyr dynol a chynnal dadansoddiad cemegol a chromatograffig.

Dywedodd Dr David O’Brien, sylfaenydd yr Old Coach House Distillery:

“Mae hyn yn fantais enfawr i ni wrth i ni farchnata ein brand newydd. Mae tarddiad, cynhwysion naturiol i gyd a rhinweddau cynaliadwyedd yn elfennau allweddol i STILLERS. Gallwn ddangos yn bendant, pan ddywedwn ein bod yn cynhyrchu diod sydd â chynhwysion botanegol naturiol i gyd, y gellir adnabod y blasau hynny’n glir yn y ddiod orffenedig.

“Mae panel synhwyraidd o ddefnyddwyr bob amser yn ddefnyddiol i gael adborth ar hoffterau a chanfyddiadau cwsmeriaid, ond mae ychwanegu’r lefel hon o ddadansoddi cemegol ar ben hynny yn rhoi hyder gwirioneddol i ni sôn am gymhlethdod botanegol ein casgliad,” meddai.

Mae Canolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE yn cynnig mynediad i fusnesau bwyd a diod o Gymru at wasanaethau dadansoddi, datblygu cynnyrch newydd, cymorth ag ardystiad ac achrediad ac amrywiaeth o hyfforddiant drwy Broject HELIX, a ariennir gan Lywodraeth Cymru.

Cysylltwch â ni

Os hoffech gael gwybod mwy am sut y gallwn helpu eich busnes neu os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cymorth y gallwn ei gynnig, yna cysylltwch â ni.

Cysylltwch â ni