Yn ddiweddar, croesawodd Canolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig.
Tywyswyd y Gweinidog ar daith o amgylch y Ganolfan gan Yr Athro David Lloyd, Cyfarwyddwr ZERO2FIVE gan arddangos nifer o brosiectau allweddol gan Arloesi Bwyd Cymru, gan gynnwys pecyn cymorth COVID 19 sydd wedi cefnogi cannoedd o fusnesau ledled Cymru.
Cafodd y Gweinidog hefyd gweld a blasu cynhyrchion newydd sy’n cael eu datblygu ar y safle gan y tîm hynod fedrus. Daw’r cynhyrchion hyn gan weithgynhyrchwyr bwyd a diod o Gymru sy’n awyddus i lansio cynhyrchion newydd sbon neu i newid y cynhwysion.
Mae gwaith hanfodol ZERO2FIVE, fel rhan o Arloesi Bwyd Cymru, yn parhau i gefnogi diwydiant gweithgynhyrchu bwyd a diod Cymru i barhau i fod yn wydn drwy Covid-19 a thu hwnt.
Dywedodd yr Athro David Lloyd: “Rydym yn diolch i’r Gweinidog am ymweld â’r Ganolfan a chaniatáu i ni arddangos y gwaith hanfodol sydd wedi bod yn barhaol drwy Covid-19. Rydym wedi parhau i ymgysylltu ag amrywiaeth o fusnesau drwy gydol y cyfnod heriol hwn. Bydd y prosiect HELIX yn parhau i ddarparu cymorth hanfodol i fusnesau Cymru wrth iddynt geisio datblygu cynhyrchion newydd, torri’n ôl ar wastraff ac ennill ardystiad a gydnabyddir yn rhyngwladol.”
Ychwanegodd yr Athro Cara Aitchison, Is-ganghellor a Llywydd Prifysgol Metropolitan Caerdydd: “Roedd yn wych gallu cynnal yr ymweliad gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig Llywodraeth Cymru ym Met Caerdydd heddiw i arddangos ein cyfleusterau ac ehangder yr arbenigedd sy’n cefnogi arloesedd yn sector bwyd a diod Cymru. Mae staff y Ganolfan Diwydiant Bwyd wedi bod yn aruthrol wrth gefnogi cwmnïau drwy Covid-19 ac mae’r Brifysgol mewn sefyllfa ddelfrydol i gefnogi amcanion ehangach y Rhaglen Datblygu Wledig nawr ac yn y dyfodol.”
Gall Canolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE ddarparu cymorth technegol a masnachol i unrhyw weithgynhyrchwyr bwyd a diod o’r busnesau newydd i gorfforaethau aml-safle mawr.