SALSA Rhifyn 7 – Digwyddiad newidiadau allweddol
Sylwch — dim ond cynhyrchwyr bwyd a diod newydd a phresennol sydd wedi’u lleoli yng Nghymru a allant gofrestru ar gyfer y digwyddiad hwn, nid ydyw ar gyfer sefydliadau cysylltiedig, ymgynghorwyr neu fyfyrwyr.
I bwy mae’r digwyddiad hwn?
- Gwneuthurwyr bwyd a diod sydd wedi eisoes wedi cyflawni SALSA Rhifyn 6
- Perchnogion busnes
- Rheolwyr Technegol / Rheolwyr Ansawdd
- Unrhyw un sy’n gyfrifol am gynnal safonau SALSA mewn busnes bwyd neu ddiod
Mae’r safon SALSA yn newid
Bydd SALSA yn lansio Rhifyn 7 o’i Safon Cynhyrchu Bwyd a Diod newydd, yr haf hwn [SALSA – Newyddion Diweddaraf]. Yn dechrau ar y 1af o Fehefin 2026, bydd y safon newydd ar gael ar wefan SALSA, gan ganiatáu i fusnesau weld y gofynion a dechrau paratoi.
O’r 1af o Fedi 2026, bydd pob archwiliad SALSA yn cael ei gynnal yn erbyn y Safon wedi’i diweddaru.
Diwydiant Bwyd yn cyflwyno cyfres o ddigwyddiadau o fis Mehefin 2026 ymlaen.
Mae’r digwyddiad hwn wedi’i gynllunio’n benodol i wneud y canlynol:
- Esbonio’n glir y newidiadau allweddol a gyflwynwyd yn Rhifyn 7
- Rhoi mewnwelediad ymarferol i fusnesau isut y gellir dangos cydymffurfiaeth.
Bydd cynrychiolwyr yn archwilio ac yn trafod meysydd sylweddol o newid, gan gynnwys:
- Gwydnwch Twyll Bwyd
- Rheoli Newid
- Diweddariadau allweddol eraill sy’n effeithio ar gydymffurfiaeth SALSA
Bydd y sesiwn yn rhannu dulliau arfer gorau, annog trafodaeth, a chefnogi busnesau i baratoi’n hyderus ar gyfer y trawsnewidiad i Rifyn 7.
Costau presenoldeb
Yn dibynnu ar faint eich cwmni a’ch cymhwysedd, gall presenoldeb yn y gweithdai hyn gael ei ariannu’n rhannol neu’n llawn.
Bydd y gost ar gyfer pob cynrychiolydd sy’n mynychu’r gweithdy yn amrywio yn dibynnu ar faint y cwmni maent yn gweithio iddo. Mae hyn yn cael ei bennu gan reoliadau cyllido Llywodraeth Cymru.
Yn y ffurflen gofrestru ar gyfer y gweithdy, gofynnir i chi ddarparu gwybodaeth am Reoli Cymorthdaliadau y cwmni ar gyfer y tair blynedd diwethaf a chadarnhau maint eich cwmni. Cyfeiriwch at eich tîm busnes cyllid i sicrhau bod y wybodaeth hon yn gywir gan y gallai fod yn destun archwiliad.
I ddarllen mwy am Reoli Cymorthdaliadau, cliciwch yma.
Noder:
Nid yw’r digwyddiad hwn yn addas ar gyfer busnesau sy’n newydd i SALSA. Os yw’ch busnes yn edrych i gael ei gymeradwyo gan SALSA, rydym yn argymell mynychu ein Gweithdy SALSA Ready yn lle hynny. I gofrestru eich diddordeb, cliciwch yma.
Unrhyw ymholiadau am y digwyddiad hwn, e-bostiwch zero2five@cardiffmet.ac.uk.

Manylion y digwyddiad
- Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Campws Llandaf
- 13/07/2026
- 09:30-12:30