Cynhadledd Dechnegol Rhaglen HELIX
Pwysigrwydd diogelwch bwyd: heriau i weithgynhyrchwyr bwyd a diod
Ymunwch â ni yn ein cynhadledd flynyddol diogelu bwyd ddydd Mercher, 28 Ionawr 2026.
Yn y digwyddiad rhad ac am ddim hwn, cewch glywed gan siaradwyr blaenllaw’r diwydiant a bydd cyfleoedd gwych i rwydweithio â chynrychiolwyr o fusnesau prosesu a gweithgynhyrchu bwyd a diod, o’r byd academaidd ac iechyd yr amgylchedd.
Lleoliad: Canolfan yr Holl Genhedloedd, Rhodfa Sachville, Y Mynydd Bychan, Caerdydd, CF14 3NY (www.allnationscentre.com)
Cofrestru: 9yb-9.30yb. Bydd y gynhadledd yn cychwyn yn brydlon am 9.30yb. Darperir te, coffi a chinio bwffe yn ystod y dydd.
Pynciau: Bydd panel o arbenigwyr technegol ardystiedig a gweithwyr proffesiynol diogelwch bwyd yn rhoi cyflwyniadau craff ar y pynciau canlynol:
Bydd pynciau yn ymdrin â’r canlynol:
- Digwyddiadau a heriau diogelwch bwyd o safbwynt yr Asiantaeth Safonau Bwyd
- Diweddariad ar safonau diogelwch bwyd (BRCGS a SALSA)
- Diweddariad diwylliant diogelwch ac ansawdd bwyd a beth sy’n gyrru’r ymddygiadau
- Her gorsensitifrwydd bwyd gyda sesiwn holi ac ateb gyda dau wneuthurwr ar sut maent yn rheoli alergenau
- Arferion diogelwch bwyd o safbwynt manwerthwyr
- Arferion hylendid ar gyfer rheoli listeria mewn ffatrïoedd
- Pwysigrwydd dylunio hylendid gyda sesiwn holi ac ateb gyda dau wneuthurwr ar gyfer yr arfer dylunio hylendid gorau
Mae ein panel o siaradwyr arbenigol yn cynnwys:
- Sara Aza, Pennaeth Cyflenwi Cymru, Asiantaeth Safonau Bwyd
- Bertrand Emond, Llysgennad Aelodaeth, Arweinydd Rhagoriaeth Diwylliant a Datblygiad Proffesiynol, Campden BRI
- Liz Preston, Rheolwr Cyflenwi Diogelwch Bwyd, Asda
- Barbara Hirst, Ymgynghorydd, Bwyd ac Ansawdd, Reading Scientific Services Limited
- Sarah Hall, Rheolwr Ardystio, SALSA Technologies
- John Figgins, Uwch Reolwr Technegol, BRGCS
- Yr Athro Carol A. Wallace, Athro Emeritws Rheoli Diogelwch Bwyd, Prifysgol Swydd Gaerhirfryn
- Yr Athro (Anrh) Dr John Holah, Rheolwr Gyfarwyddwr, Pendennis Food Hygiene Ltd
- Simon Burns, Rheolwr Gweithrediadau Proses, Canolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE, Prifysgol Metropolitan Caerdydd ac aelod o bwyllgor EHEDG
Rhagor o fanylion ac agenda i ddilyn.
Pwy ddylai fynychu? Mae cofrestru ar gyfer y digwyddiad hwn wedi’i anelu at weithgynhyrchwyr bwyd a diod newydd a phresennol sydd wedi’u lleoli yng Nghymru, gan gynnwys gweithwyr proffesiynol y diwydiant sy’n gweithio mewn rolau swyddi diogelwch bwyd, technegol, datblygu cynhyrchion newydd a/neu archwilio rolau mewnol yn eu sefydliadau.
Mae’r cofrestriadau wedi’u cyfyngu i bedwar unigolyn y sefydliad/adran. Os yw eich grŵp yn fwy na’r terfyn hwn, gellir rhoi mynychwyr ychwanegol ar restr wrth gefn. Os bydd hyn yn digwydd, byddwn yn eich hysbysu drwy e-bost.
Cofrestriadau myfyrwyr: Mae lleoedd i fyfyrwyr fynychu eyn gyfyngedig. Os hoffech gofrestru eich diddordeb, anfonwch e-bost at y tîm marchnata drwy ZERO2FIVEmarketing@cardiffmet.ac.uk a fydd yn rhoi rhagor o wybodaeth am feini prawf cymhwysedd i fynychu.
Dyddiad cau ar gyfer cofrestru: 07 Ionawr 2026
 phwy ddylen ni gysylltu â nhw?Os oes gennych unrhyw gwestiwn ynglŷn â chynhadledd UKAFP, cysylltwch â ZERO2FIVE@cardiffmet.ac.uk.
Manylion y digwyddiad
- All Nations Centre, Caerdydd
- 28/01/2026
- 09:00-16:00