Gweithdy Parod am Archwiliad SALSA
Sylwch — dim ond cynhyrchwyr bwyd a diod newydd a phresennol sydd wedi’u lleoli yng Nghymru a allant gofrestru ar gyfer y digwyddiad hwn, nid ydyw ar gyfer sefydliadau cysylltiedig, ymgynghorwyr neu fyfyrwyr.
Gweithdy rhyngweithiol yw hwn a gynhelir yng Nghanolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE. Mae’r gweithdy hwn yn ddelfrydol ar gyfer unrhyw weithgynhyrchwyr sy’n ystyried cael ardystiad SALSA am y tro cyntaf, neu ar gyfer gweithgynhyrchwyr sydd eisoes ag ardystiad SALSA yn ei le ac sydd eisiau cefnogaeth i gynnal y safon.
Amlinelliad o’r cwrs fel a ganlyn:
- Sut i gofrestru gyda SALSA
- Sut i gael mynediad at y safonau perthnasol
- Deall y gofynion
- Y broses archwilio, gan gynnwys paratoi’r archwiliad a beth i’w ddisgwyl ar y diwrnod
- Sut i gau allan achosion o ddiffyg cydymffurfio a godwyd yn ystod yr archwiliad
- Diffyg cydymffurfio cyffredin, ac awgrymiadau ar sut i’w hosgoi
Costau presenoldeb
Yn dibynnu ar faint eich cwmni a’ch cymhwysedd, gall presenoldeb yn y gweithdai hyn gael ei ariannu’n rhannol neu’n llawn.
Bydd y gost ar gyfer pob cynrychiolydd sy’n mynychu’r gweithdy yn amrywio yn dibynnu ar faint y cwmni maent yn gweithio iddo. Mae hyn yn cael ei bennu gan reoliadau cyllido Llywodraeth Cymru.
Yn y ffurflen gofrestru ar gyfer y gweithdy, gofynnir i chi ddarparu gwybodaeth am Reoli Cymorthdaliadau y cwmni ar gyfer y tair blynedd diwethaf a chadarnhau maint eich cwmni. Cyfeiriwch at eich tîm busnes cyllid i sicrhau bod y wybodaeth hon yn gywir gan y gallai fod yn destun archwiliad.
I ddarllen mwy am Reoli Cymorthdaliadau, cliciwch yma.

Manylion y digwyddiad
- Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Campws Llandaf
- 24/06/2025
- 09:30 - 13:30