Skip to main content
Chwiliwch y wefan

Gweithdy Datblygu Cynhyrchion Newydd: Asesiad Synhwyraidd ar gyfer Sicrhau Ansawdd

Sylwch — dim ond cynhyrchwyr bwyd a diod newydd a phresennol sydd wedi’u lleoli yng Nghymru a allant gofrestru ar gyfer y digwyddiad hwn, nid ydyw ar gyfer sefydliadau cysylltiedig, ymgynghorwyr neu fyfyrwyr.

Pwy all fynychu

Mae ein cyfres o weithdai Datblygu Cynnyrch Newydd yn sesiynau lefel ragarweiniol – gall y gweithdy hwn fod yn ddefnyddiol i unrhyw un sy’n meddwl am sefydlu paneli profi synhwyraidd neu redeg paneli blas Sicrhau Ansawdd yn eu busnes.

Mae’r gweithdy hwn yn rhoi trosolwg o ystyriaethau ar gyfer dewis panelwyr, sefydlu prawf synhwyraidd a’r amgylchedd prawf, a mathau o ddulliau profi synhwyraidd

6. Datblygu Cynnyrch Newydd – Asesiad Synhwyraidd ar gyfer Sicrhau Ansawdd

Gellir defnyddio asesiad synhwyraidd o gynhyrchion bwyd a diod i lywio sawl agwedd ar ddatblygu cynnyrch newydd ac asesu ansawdd cynnyrch parhaus.

Nod y gweithdy lefel ragarweiniol hwn yw rhoi trosolwg o’r arfer gorau ar gyfer sefydlu amgylchedd prawf ac ystyriaethau amserlen brofi, dewis a hyfforddi panelwyr synhwyraidd, gwahanol fathau o ddulliau profi synhwyraidd a’u defnyddiau.

Cynhelir y gweithdai rhyngweithiol hyn yng Nghanolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE yng Nghaerdydd.

Er bod y gweithdai hyn yn rhan o gyfres, gallwch fynychu gweithdai unigol i weddu i’ch anghenion busnes.

Costau presenoldeb

Yn dibynnu ar faint eich cwmni a’ch cymhwysedd, gall presenoldeb yn y gweithdai hyn gael ei ariannu’n rhannol neu’n llawn.

Bydd y gost ar gyfer pob cynrychiolydd sy’n mynychu’r gweithdy yn amrywio yn dibynnu ar faint y cwmni maent yn gweithio iddo. Mae hyn yn cael ei bennu gan reoliadau cyllido Llywodraeth Cymru.

Yn y ffurflen gofrestru ar gyfer y gweithdy, gofynnir i chi ddarparu gwybodaeth am Reoli Cymorthdaliadau y cwmni ar gyfer y tair blynedd diwethaf a chadarnhau maint eich cwmni. Cyfeiriwch at eich tîm busnes cyllid i sicrhau bod y wybodaeth hon yn gywir gan y gallai fod yn destun archwiliad.

I ddarllen mwy am Reoli Cymorthdaliadau, cliciwch yma.

Cofrestrwch nawr

Os hoffech drafod hyfforddiant mwy manwl neu bwrpasol ar gyfer eich busnes, cysylltwch â ni drwy zero2five@cardiffmet.ac.uk am ragor o wybodaeth.

HELIX Programme and Food and Drink Wales logos

Lightbulb shape made out of food icons
  • Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Campws Llandaf
  • 05/06/2026
  • 09:30-13:30