Skip to main content
Chwiliwch y wefan

Gweithdy Datblygu Cynhyrchion Newydd: Adeiladu Briff

E-bostiwch zero2five@cardiffmet.ac.uk os hoffech fynychu’r digwyddiad hwn.

Sylwch — dim ond cynhyrchwyr bwyd a diod newydd a phresennol sydd wedi’u lleoli yng Nghymru a allant gofrestru ar gyfer y digwyddiad hwn, nid ydyw ar gyfer sefydliadau cysylltiedig, ymgynghorwyr neu fyfyrwyr.

Pwy all fynychu

Mae ein cyfres o weithdai Datblygu Cynnyrch Newydd yn cyflwyno sesiynau rhagarweiniol sydd wedi’u targedu at fusnesau cyfnod cynnar a busnesau newydd.

1. Datblygu Cynhyrchion Newydd – Adeiladu Briff

Er mwyn datblygu a lansio cynhyrchion newydd llwyddiannus, mae angen ichi ddechrau gyda briff datblygu cynhyrchion newydd cynhwysfawr.

Yn y gweithdy hwn byddwn yn edrych ar gamau cychwynnol datblygu cynhyrchion newydd, Cwmpasu a Llunio Syniadau, ac yn ystyried y canlynol:

• Pwysigrwydd dull strategol o ddatblygu cynhyrchion newydd

• Pwy yw fy nghwsmer targed?

• Deall y farchnad

• Manteisio ar y tueddiadau diweddaraf

• Dadansoddi eich cystadleuwyr

• Cynhyrchu syniadau am gynnyrch

• Hyfywedd masnachol

• Profi eich cysyniadau

• Ysgrifennu briff Datblygu Cynhyrchion Newydd

Mae’r gweithdy hwn yn ddelfrydol ar gyfer cwmnïau sydd â syniad am gynnyrch y maent am ei ddatblygu ymhellach neu’r rhai sydd am greu syniadau ar gyfer cynhyrchion newydd.

Sylwch y bydd angen gwybodaeth cyn cofrestru cyn y digwyddiad a byddwch yn derbyn cais am wybodaeth cyn dyddiad y gweithdy.

Gweithdy rhyngweithiol wedi’i ariannu yw hwn a gynhelir yng Nghanolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE.

Os hoffech drafod hyfforddiant mwy manwl neu bwrpasol ar gyfer eich busnes, cysylltwch â ni drwy zero2five@cardiffmet.ac.uk am ragor o wybodaeth.

Er bod y gweithdai hyn yn rhan o gyfres, gallwch fynychu gweithdai unigol i weddu i’ch anghenion busnes.

Cofrestrwch nawr

Lightbulb shape made out of food icons
  • Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Campws Llandaf
  • 03/06/2025
  • 09:30-13:30