Gweithdy Cyflwyniad i Ficrobioleg Bwyd
Sylwch — dim ond cynhyrchwyr bwyd a diod newydd a phresennol sydd wedi’u lleoli yng Nghymru a allant gofrestru ar gyfer y digwyddiad hwn, nid ydyw ar gyfer sefydliadau cysylltiedig, ymgynghorwyr neu fyfyrwyr.
Pwy all fynychu
QA’s, aelodau tîm technegol iau, aelodau tîm NPD, aelodau tîm HACCP, gweithwyr proffesiynol technegol sy’n dymuno adnewyddu eu gwybodaeth, arweinwyr tîm hylendid.
Gweithdy Cyflwyniad i Ficrobioleg Bwyd
Yn y gweithdy hwn byddwn yn rhoi cyflwyniad sylfaenol i ficrobioleg a’i bwysigrwydd o fewn rheoli diogelwch bwyd i gynrychiolwyr. Yn y gweithdy byddwn yn trafod y canlynol:
- Grwpiau o ficro-organebau
- Twf a Goroesi micro-organebau mewn bwyd
- Micro-organebau bwyd sy’n peri pryder
- Sut i ddatblygu cynllun profi microbiolegol Bwyd
- Sut i ddehongli canlyniadau profion microbiolegol
- Ffynonellau gwybodaeth ar gyfer canllawiau microbiolegol
- Swabio a monitro amgylcheddol
Gweithdy rhyngweithiol wedi’i ariannu yw hwn a gynhelir yng Nghanolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE.
Costau presenoldeb
Yn dibynnu ar faint eich cwmni a’ch cymhwysedd, gall presenoldeb yn y gweithdai hyn gael ei ariannu’n rhannol neu’n llawn.
Bydd y gost ar gyfer pob cynrychiolydd sy’n mynychu’r gweithdy yn amrywio yn dibynnu ar faint y cwmni maent yn gweithio iddo. Mae hyn yn cael ei bennu gan reoliadau cyllido Llywodraeth Cymru.
Yn y ffurflen gofrestru ar gyfer y gweithdy, gofynnir i chi ddarparu gwybodaeth am Reoli Cymorthdaliadau y cwmni ar gyfer y tair blynedd diwethaf a chadarnhau maint eich cwmni. Cyfeiriwch at eich tîm busnes cyllid i sicrhau bod y wybodaeth hon yn gywir gan y gallai fod yn destun archwiliad.
I ddarllen mwy am Reoli Cymorthdaliadau, cliciwch yma.
Os hoffech drafod hyfforddiant mwy manwl neu bwrpasol ar gyfer eich busnes, cysylltwch â ni drwy zero2five@cardiffmet.ac.uk am ragor o wybodaeth.

Manylion y digwyddiad
- Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Campws Llandaf
- 25/09/2025
- 09:30-13:30