Skip to main content
Chwiliwch y wefan

Gweithdy Diogeledd Bwyd: Manylebau

Sylwch — dim ond cynhyrchwyr bwyd a diod newydd a phresennol sydd wedi’u lleoli yng Nghymru a allant gofrestru ar gyfer y digwyddiad hwn, nid ydyw ar gyfer sefydliadau cysylltiedig, ymgynghorwyr neu fyfyrwyr.

Pwy all fynychu

Technolegwyr manyleb, gweinyddwyr technegol, aelodau tîm DCN, SA a thechnegol.

Gweithdy Diogeledd Bwyd : Manylebau

Mae’r gweithdy yn cynnwys y canlynol:

• Sut i gymryd rysáit DCN a’i throi’n fanyleb cynnyrch gorffenedig

• Sut i adolygu manylebau deunydd crai a defnyddio’r wybodaeth i osod nwyddau mewn profion neu arolygiadau

• Deall y cysylltiad rhwng manylebau deunydd crai a nwyddau mewn gwiriadau a phrofion

• Deall pwysigrwydd manyleb rhan-gynhyrchion ar gyfer ansawdd cynnyrch

• Cyfeirio at ffynonellau gwybodaeth ar gyfer paratoi ac adolygu manylebau

• Adolygu’r fanyleb

• Archwiliadau’r fanyleb

Cynhelir y gweithdai rhyngweithiol hyn yng Nghanolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE yng Nghaerdydd.

Er bod y gweithdai hyn yn rhan o gyfres, gallwch fynychu gweithdai unigol i weddu i’ch anghenion busnes.

Costau presenoldeb

Yn dibynnu ar faint eich cwmni a’ch cymhwysedd, gall presenoldeb yn y gweithdai hyn gael ei ariannu’n rhannol neu’n llawn.

Bydd y gost ar gyfer pob cynrychiolydd sy’n mynychu’r gweithdy yn amrywio yn dibynnu ar faint y cwmni maent yn gweithio iddo. Mae hyn yn cael ei bennu gan reoliadau cyllido Llywodraeth Cymru.

Yn y ffurflen gofrestru ar gyfer y gweithdy, gofynnir i chi ddarparu gwybodaeth am Reoli Cymorthdaliadau y cwmni ar gyfer y tair blynedd diwethaf a chadarnhau maint eich cwmni. Cyfeiriwch at eich tîm busnes cyllid i sicrhau bod y wybodaeth hon yn gywir gan y gallai fod yn destun archwiliad.

I ddarllen mwy am Reoli Cymorthdaliadau, cliciwch yma.

Cofrestrwch nawr

Os hoffech drafod hyfforddiant mwy manwl neu bwrpasol ar gyfer eich busnes, cysylltwch â ni drwy zero2five@cardiffmet.ac.uk am ragor o wybodaeth.

HELIX Programme and Food and Drink Wales logos

Ruler measuring confectionary
  • Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Campws Llandaf
  • 13/10/2025
  • 09:30-13:30