Skip to main content
Chwiliwch y wefan

Gweithdy Diogeledd Bwyd: Asesu Risg Deunydd Crai, Profi a Rheoli Cyflenwyr

Sylwch — dim ond cynhyrchwyr bwyd a diod newydd a phresennol sydd wedi’u lleoli yng Nghymru a allant gofrestru ar gyfer y digwyddiad hwn, nid ydyw ar gyfer sefydliadau cysylltiedig, ymgynghorwyr neu fyfyrwyr.

Pwy all fynychu

Aelodau’r tîm technegol, technolegwyr deunyddiau crai, aelodau tîm HACCP, rheolwyr cadwyn gyflenwi, rheolwyr Sicrhau Ansawdd a Thechneg.

Gweithdy Diogeledd Bwyd 3: Asesu risg deunydd crai, profi a rheoli cyflenwyr

Bydd y gweithdy’n cwmpasu’r canlynol:

· Asesiad risg deunydd crai, meini prawf a methodolegau

· Adnoddau profi deunydd crai

· Mathau o gyflenwyr

· Cysylltiad rhwng asesu risg deunyddiau crai a chymeradwyaeth cyflenwyr

· Cymeradwyaeth cyflenwr gan gynnwys, cychwynnol, parhaus, cyflenwr proses allanol, cyflenwyr gwasanaeth

· Adolygiad perfformiad cyflenwyr

· Mapio’r gadwyn gyflenwi

Sylwch y bydd angen gwybodaeth cyn cofrestru cyn y digwyddiad a byddwch yn derbyn cais am wybodaeth cyn dyddiad y gweithdy.

Mae modiwl 3 yn rhan o’r gyfres o weithdai diogeledd bwyd (1-6). Cynhelir y gweithdai rhyngweithiol hyn, a ariennir yn llawn, yng Nghanolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE yng Nghaerdydd.

Os hoffech drafod hyfforddiant mwy manwl neu bwrpasol ar gyfer eich busnes, cysylltwch â ni drwy zero2five@cardiffmet.ac.uk am ragor o wybodaeth.

Er bod y gweithdai hyn yn rhan o gyfres, gallwch fynychu gweithdai unigol i weddu i’ch anghenion busnes.

Cofrestrwch nawr

Touch-screen food testing equipment
  • Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Campws Llandaf
  • 01/07/2025
  • 09:30-13:30