Yr Athro David Lloyd
Cyfarwyddwr Canolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE
Yn ei rôl fel Cyfarwyddwr ZERO2FIVE, mae David yn gweithio’n agos gyda’r sector preifat a Llywodraeth Cymru, gan gynghori’n aml ar faterion sy’n effeithio ar y diwydiant bwyd a diod a dylanwadu ar bolisi bwyd Llywodraeth Cymru.
Dechreuodd David ei yrfa yn y diwydiant bwyd dros 30 mlynedd yn ôl yn labordai becws mawr yng Nghaerdydd ac yna bu’n gweithio ledled y DU fel Cyfarwyddwr Technegol i nifer o gwmnïau bwyd mawr.
Ar hyn o bryd mae David hefyd yn Gadeirydd ar Fwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru, sy’n dod â chwaraewyr allweddol o bob rhan o ddiwydiant bwyd Cymru ynghyd i gydweithio i yrru’r sector yn ei flaen.
Ebost: dclloyd@cardiffmet.ac.uk
Ffôn: 07770 825069

Cysylltwch â ni
Os hoffech gael gwybod mwy am sut y gallwn helpu eich busnes neu os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cymorth y gallwn ei gynnig, yna cysylltwch â ni.