Helen Taylor
Cyfarwyddwr Technegol
Fel Cyfarwyddwr Technegol, mae Helen yn arwain y tîm technegol i weithio gyda chwmnïau ar draws pob categori cynnyrch yn y DU. Cyn ei swydd bresennol, treuliodd Helen 17 mlynedd yn gweithio ym maes gweithgynhyrchu bwyd a busnesau manwerthu gan ddatblygu ei sgiliau technegol a’i gwybodaeth. Mae arbenigedd cymhwysol Helen mewn gweithgynhyrchu, archwilio ac arloesi yn cwmpasu pob prosiect a chategori cynnyrch, o gysyniad i ddefnyddiwr, gan sicrhau bod cynhyrchion diogel, cyfreithiol a dilys yn cael eu darparu.
Ar hyn o bryd, Helen yw Cadeirydd Cangen Cymru o’r Sefydliad Gwyddoniaeth a Thechnoleg Bwyd. Mae’n aelod gweithgar o Bwyllgor Cynghori Bwyd Cymru, yr Asiantaeth Safonau Bwyd ac yn aelod o’r Pwyllgor Cynghori Technegol ar gyfer SALSA (Cymeradwyaeth Cyflenwr Diogel a Lleol). Mae Helen hefyd yn aelod gweithgar o Gymdeithas Diogelu Bwyd y DU ac mae’n Gynrychiolydd Swyddogol Cyngor y Gymdeithas Ryngwladol ar gyfer Diogelu Bwyd ac yn Ysgrifennydd y Cyngor Cysylltiedig.
Ebost: hrtaylor@cardiffmet.ac.uk
Ffôn: 07968 723761

Cysylltwch â ni
Os hoffech gael gwybod mwy am sut y gallwn helpu eich busnes neu os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cymorth y gallwn ei gynnig, yna cysylltwch â ni.