Skip to main content
Chwiliwch y wefan

Sut bydd gwneuthurwyr bwyd yn meddwl am y cyfarwyddiadau aildwymo ar gyfer eu prydau parod?

3 min read 05/01/2026

Food technologist inserting temperature probe into a ready meal

A ydych wedi ystyried erioed sut gwnaeth gwneuthurwyr eich pryd parod feddwl am y cyfarwyddiadau aildwymo ar gyfer eu cynhyrchion?

Mae’r cyfarwyddiadau coginio ac aildwymo ar gefn pecyn yn bwysig er mwyn sicrhau bod y cynnyrch yn ddiogel i’w fwyta ac â’r blas gorau posib iddo. Gallai cyfarwyddiadau aildwymo annigonol olygu y caiff ei dandwymo ac felly bydd yn rhy oer neu, hyd yn oed yn waeth na hynny, gallai achosi gwenwyn bwyd, neu ei ordwymo a fydd yn golygu y bydd o ansawdd gwael ac yn anneniadol i’w fwyta.

Mae’n ofynnol yn gyfreithiol darparu cyfarwyddiadau coginio neu aildwymo os bydd eu hangen er mwyn i’r cwsmer ddefnyddio’r cynnyrch yn iawn.

Wrth ddatblygu’r cynnyrch, bydd technolegwyr bwyd yn edrych ar:

  • Fformiwleiddiad y cynnyrch – Gallai cynnyrch y bydd disgwyl iddo gael ei aildwymo mewn ffwrn gonfensiynol fod â fformiwleiddiad gwahanol i un y bwriedir iddo gael ei aildwymo mewn microdon. 
  • Mae’r deunyddiau pecynnu a siâp y pecyn wedi’u dylunio i alluogi gwresogi effeithlon a chyson ac yn addas i’w drafod wedi hynny. Yn ogystal â gwrthsefyll aildwymo, rhaid i’r pecynnu fod yn ddigon cryf i ddiogelu ac i gadw’r cynnyrch yn ffres drwy’r gadwyn gyflenwi o’r ffatri i’n cartrefi.

Cadw e’n ddiogel…

Bydd y tymheredd targed rydym yn anelu ato ar ddiwedd yr aildwymo yn dibynnu ar: a ellir dweud bod y bwyd yn ddiogel i’w fwyta heb ei dwymo ymhellach neu a oes angen ei aildwymo er mwyn lladd unrhyw facteria gwenwynig y gallai fod wedi ail-halogi’r bwyd neu fod wedi tyfu ar y bwyd. Bydd angen i’r aildwymo fod yn ddigon i ddistrywio unrhyw un o’r bacteria hyn, ac er mwyn gwneud hyn bydd angen i’r cynnyrch gael ei aildwymo i dymheredd digon uchel am gyfnod priodol o amser.

Mewn cynnyrch, mae rhan bob amser yn fwy araf i dwymo na’r rhannau eraill: y ‘smotyn oer’ yw’r enw a roddir ar hwn. Er mwyn sicrhau bod cynnyrch wedi’i dwymo’n drylwyr, bydd rhaid twymo’r smotyn oer hwn i wres sy’n cyfateb i 70°c am 2 funud (neu gellir sicrhau hyn drwy ddefnyddio tymheredd uwch am lai o amser neu dymheredd is am fwy o amser).

Wrth ddatblygu cyfarwyddiadau i roi canllawiau i ddefnyddwyr ar aildwymo bwyd yn ddiogel, bydd angen i’r technolegwyr bwyd gofnodi’r tymheredd a’r amser ar y tymheredd hwnnw. I gael mesur hyn, defnyddir offer megis chwiliedyddion a chofnodwyr data electronig i fonitro a mesur tymheredd y bwyd ar gyfnodau pendant. Yna gellir dadansoddi’r data yma a chyfrifo’r cyfarwyddiadau gwresogi angenrheidiol er mwyn sicrhau bod y cynnyrch yn ddiogel i’w fwyta.

Wrth ysgrifennu’r cyfarwyddiadau gwresogi, bydd angen i’r technolegwyr edrych ar:

  • A oes angen gwresogi’r offeryn ymlaen llaw?
  • A yw’r offeryn yn briodol ac yn gallu twymo’r bwyd?
  • A yw’n bosib twymo’r deunydd pecynnu?
  • Ble dylid gosod y tymheredd?
  • A fydd y cynnyrch bwyd wedi’i orchuddio neu beidio?
  • A fydd angen i chi droi’r cynnyrch unwaith, yn aml neu ddim o gwbl?
  • A fydd angen i chi adael y cynnyrch i sefyll wedi ei dwymo?

Fel y gwelwch, bydd angen llawer o waith er mwyn gwneud yn siŵr bod eich pryd parod yn ddiogel a bod ei flas yn iawn.

Yma yn ZERO2FIVE gallwn gynnig ystod o gefnogaeth gyda’r broses thermol, gan gynnwys dilysu cyfarwyddiadau aildwymo, a gellir cynnig cymorth ariannol i fusnesau cymwys drwy raglen HELIX Llywodraeth Cymru.

Cysylltwch â ni i drafod sut y gallwn gefnogi eich busnes chi.

Cysylltwch â ni

Os hoffech gael gwybod mwy am sut y gallwn helpu eich busnes neu os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cymorth y gallwn ei gynnig, yna cysylltwch â ni.

Cysylltwch â ni