Stori llwyddiant: Douglas Willis
Cefndir
Wedi’i leoli yn Nhorfaen, mae Douglas Willis yn gyfanwerthwr cig ffres a chigydd arlwyo sy’n dosbarthu i gartrefi a busnesau ledled y DU. Wedi’i sefydlu ym 1940, mae’r cwmni teuluol yn gwerthu cig arobryn gan gyflenwyr Cymru a’r DU.
Mae Canolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE wedi cefnogi Douglas Willis ers blynyddoedd lawer, ar ôl eu helpu i gyflawni ardystiad SALSA ac yna i symud ymlaen i BRCGS Start yn 2019, pan ddaethant y safle cyntaf yn y byd i gael ei ardystio.
Cysylltodd Douglas Willis â ZERO2FIVE pan oeddent yn chwilio am gefnogaeth i adnewydddu eu hardystiad BRCGS Start, olrhain a dylunio prosesau i gynnal y safonau uchaf o ran hylendid.
Cefnogaeth BRCGS Start
Cynhaliodd ZERO2FIVE archwiliadau mewnol o systemau rheoli diogelwch bwyd Douglas Willis yn erbyn gofynion safon BRCGS Start. Caniataodd hyn i ZERO2FIVE nodi unrhyw brosesau a gwaith papur yr oedd angen eu mireinio ymhellach i fodloni gofynion y safon.
O ganlyniad, cyflwynodd ZERO2FIVE raglen fentora i reolwr technegol Douglas Wills ar bynciau gan gynnwys manylebau, HACCP, rheoli digwyddiadau, a labelu. Yn newydd i’r diwydiant gweithgynhyrchu bwyd a diod cyn gweithio yn Douglas Willis, mae mentora ZERO2FIVE wedi bod yn hanfodol wrth uwchsgilio’r rheolwr technegol.
Llwyddodd Douglas Willis i basio eu harchwiliad BRCGS diweddaraf ym mis Mawrth 2025, ac mae ZERO2FIVE yn bwriadu cefnogi’r cwmni gydag archwiliadau mewnol BRCGS Start pellach a bydd yn darparu mentora wedi’i dargedu i gefnogi gwelliant parhaus eu systemau diogelwch bwyd a rheoli ansawdd.
Cefnogaeth olrhain
Cynhaliodd ZERO2FIVE adolygiad diagnostig o systemau olrhain Douglas Willis gan fod y cwmni’n dymuno herio a chryfhau eu gweithdrefnau a’u harferion gwaith yn y maes hwn.
O ganlyniad, gwnaed argymhellion ynghylch hyfforddiant ac mae ZERO2FIVE yn bwriadu cyflwyno gweithdy olrhain ar y safle i dîm cynhyrchu Douglas Willi yn y dyfodol. Ar ben hynny, mae’r cwmni wrthi’n uwchraddio eu systemau olrhain cyfrifiadurol i ddarparu ar gyfer cynhyrchion a wneir gyda nifer o gydrannau fel byrgyrs a selsig.
Mae’r gwelliannau i systemau olrhain Douglas Willis wedi cefnogi’r cwmni i basio eu harchwiliad ardystio Cig Eidion a Chig Oen Cymru PGI diweddaraf, sy’n cynnwys olrhain tarddiad cig ar hyd y gadwyn gyflenwi gyfan fel rhan hanfodol ohono. Bydd y gwelliannau hyn hefyd yn cefnogi Douglas Willis i gynnal eu hardystiad Tractor Coch a BRCGS Start.
Cefnogaeth dylunio prosesau i gynnal y safonau uchaf o ran hylendid
Cysylltodd Douglas Willis â ZERO2FIVE pan oeddynt yn chwilio am gefnogaeth i ddylunio prosesau i gynnal y safonau uchaf o ran hylendid eu ffatri gan ei fod yn ystyriaeth allweddol mewn arferion hylendid da, cymeradwyaeth gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd ac archwiliadau BRCGS Start.
Cynhaliodd ZERO2FIVE adolygiad diagnostig o ddyluniad ffatri’r cwmni yn erbyn canllawiau EHEDG i’w gymharu ag arfer gorau ac i gwmpasu unrhyw ymyriadau a allai fod yn ofynnol. Yn ogystal, darparodd ZERO2FIVE fentora ar arfer gorau o ran dylunio ffatrïoedd hylan gyda phynciau a gwmpeswyd gan gynnwys llif prosesau cynhyrchu ac asesiadau risg.
O ganlyniad i’r gefnogaeth, gwnaeth ZERO2FIVE argymhellion y mae’r cwmni bellach yn eu rhoi ar waith. Mae hyn yn cynnwys gosod ystafell aeddfedu a sychu, a fydd yn cefnogi cynnal diogelwch cynnyrch yn ogystal â gwella ansawdd cynnyrch ac effeithlonrwydd prosesau.
Cafodd archwiliad diweddaraf Douglas Willis o ffatri dorri ei gymeradwyo gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd ac o ganlyniad byddant yn cynnal eu cylch archwilio 12 mis.
Manteision y gefnogaeth
O ganlyniad i’r gefnogaeth gan ZERO2FIVE, mae Douglas Willis wedi llwyddo i ddiogelu 38 o swyddi.
Dywedodd Sean Willis, Rheolwr Gyfarwyddwr, Douglas Willis Cyf: “Mae ZERO2FIVE wedi bod wrth ein hochr yn gyson ers dros 15 mlynedd yn darparu cefnogaeth, trosglwyddo gwybodaeth a chyfeiriad i’n busnes bwyd. Oherwydd y gefnogaeth yma, rydym wedi gallu ennill a chynnal ein hardystiadau ar gyfer BRCGS Start, Cig Eidion a Chig Oen Cymru PGI, a safon Tractor Coch. Mae hyn wedi ein galluogi i gynnal ein cyfran o’r farchnad mewn sector bwyd hynod heriol.”

Cysylltwch â ni
Os hoffech gael gwybod mwy am sut y gallwn helpu eich busnes neu os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cymorth y gallwn ei gynnig, yna cysylltwch â ni.