Stori llwyddiant: Butchery Bocs
Cefndir
Mae Butchery Bocs yn blatfform dosbarthu ar-lein cenedlaethol sy’n arbenigo mewn cig Cymreig premiwm ac eitemau i’r pantri gan y cynhyrchwyr gorau sydd wedi’u lleoli yng Nghymru. Mae’r cwmni’n caffael eu cig eidion, oen a phorc Cymreig PGI o rwydwaith o ffermydd teuluol bach sy’n arbenigwyr mewn bridiau treftadaeth a fagir ar borfa.
Mae’r cwmni’n gangen o Gigyddion Teuluol Penygraig, sy’n eiddo i Sam Adams ac sydd wedi bod yn hanfodol i gymuned Tonypandy dros y 25 mlynedd diwethaf. Gyda chigyddion annibynnol yn wynebu cystadleuaeth gref gan archfarchnadoedd, penderfynodd Sam ehangu eu sylfaen cwsmeriaid posibl drwy werthu ar-lein.
Gan nad oedd gan Sam unrhyw brofiad blaenorol o fanwerthu ar-lein, cyfeiriodd tîm Iechyd yr Amgylchedd yng Nghyngor Rhondda Cynon Taf Butchery Bocs at ZERO2FIVE i gael cymorth rheoli diogelwch bwyd HACCP.

Cefnogaeth gan ZERO2FIVE
I ddechrau, mynychodd Butchery Bocs ddau weithdy diogelwch bwyd hanner diwrnod a gynhaliwyd yn ZERO2FIVE. Roedd y gweithdai yma’n ymdrin â phrif egwyddorion arferion gweithgynhyrchu da, peryglon diogelwch bwyd a chyflwyniad i ragofynion. Dyma’r arferion a’r amodau sy’n hanfodol ar gyfer creu amgylchedd cynhyrchu bwyd diogel, gan gynnwys hylendid personol, rheoli plâu, glanhau a glanweithdra.
Ar ôl mynychu’r gweithdai, derbyniodd Butchery Bocs fentora un-i-un i’w helpu i ddatblygu cynllun rheoli diogelwch bwyd HACCP pwrpasol a oedd yn briodol ar gyfer gwerthu cig amrwd ar-lein. Roedd hyn yn cwmpasu adnabod a dadansoddi peryglon, pennu pwyntiau rheoli critigol (camau yn y broses gynhyrchu y gellir eu rheoli i atal, dileu neu leihau peryglon diogelwch bwyd i lefel dderbyniol) a gosod terfynau critigol ar eu cyfer.
Hefyd, cafodd Butchery Bocs ei gefnogi drwy’r broses dylunio a gweithredu treialon cludo gan ddefnyddio logwyr data wedi’u graddnodi i sicrhau bod cynhyrchion yn aros ar dymheredd diogel wrth deithio drwy’r gwasanaeth post. Yn olaf, cefnogwyd y cwmni gyda’r gwaith o labelu cynnyrch gan nad oeddent wedi gwerthu cynhyrchion wedi’u pecynnu ymlaen llaw o’r blaenm, a oedd yn cynnwys y rheoliadau gwybodaeth bwyd ar gyfer cynhyrchion wedi’u pecynnu ymlaen llaw.
Manteision y gefnogaeth
O ganlyniad i’r gefnogaeth, llwyddodd Butchery Bocs i ddod yn fusnes cofrestredig gyda’u hawdurdod lleol a sicrhau sgôr hylendid bwyd o bump. Maent bellach yn gallu cyflenwi eu cig a’u cynnyrch Cymreig premiwm i gwsmeriaid ledled y DU.
Sam Adams, Perchennog, Butchery Bocs: “Roedd y gefnogaeth gan ZERO2FIVE yn hanfodol i’n helpu i ehangu ein busnes o fanwerthu ar y stryd fawr i werthu ar-lein. Heb eu cymorth byddai wedi bod yn llawer anoddach mynd i’r afael â’r gofynion diogelwch bwyd ar gyfer manwerthu ar-lein. Os ydych chi’n ystyried arallgyfeirio’ch busnes, yna byddwn i’n argymell cysylltu â ZERO2FIVE i gael cymorth.
Cysylltwch â ni
Os hoffech gael gwybod mwy am sut y gallwn helpu eich busnes neu os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cymorth y gallwn ei gynnig, yna cysylltwch â ni.