Skip to main content
Chwiliwch y wefan

Stori llwyddiant: Beacon Foods

Cefndir

Mae Beacon Foods yn fusnes teuluol o dros 30 mlynedd sydd wedi’i leoli ym Mannau Brycheiniog. Yn eu ffatri ardystiedig BRCGS maent yn cynhyrchu ystod amrywiol o ffrwythau a llysiau sy’n ychwanegu at werth, gan gynnwys cynhyrchion piwrî, wedi’u rhostio, wedi’u grilio a’u sautéio yn ogystal â sawsiau, marinadau, siytni a chompotau.

Yn flaenorol, mae ZERO2FIVE wedi darparu ystod o gymorth technegol i Beacon Foods ac yn ystod cyfarfod adolygu busnes diweddar gyda’r cwmni, fe wnaethant fynegi diddordeb mewn hyfforddiant dadansoddiad o wraidd y broblem.

Mae dadansoddiad o wraidd y broblem yn offeryn datrys problemau sy’n galluogi gweithgynhyrchwyr bwyd i ymchwilio i achosion sylfaenol materion rheoli diogeled bwyd posibl a rhoi atebion parhaol ar waith sy’n atal problemau rhag ailddigwydd.

Beacon Foods logo

Cefnogaeth gan ZERO2FIVE

Datblygodd arbenigwyr rheoli diogeledd bwyd o ZERO2FIVE weithdy dadansoddiad o wraidd y broblem a gafodd ei gyflwyno ar y safle i Beacon Foods. Mynychodd 18 o gynrychiolwyr o bob rhan o’r cwmni i’r gweithdy, gan gynnwys aelodau’r tîm technegol, peirianneg, cynhyrchu a hyfforddi.

Roedd y digwyddiad hyfforddi yn cynnwys gweithgareddau rhyngweithiol yn edrych ar hanfodion dadansoddiad o wraidd y broblem, astudiaeth achos ymarferol gan ddefnyddio senario ddamcaniaethol, ac enghraifft bywyd go iawn gan Beacon Foods a oedd yn edrych ar sut y gellid cymhwyso dadansoddiad o wraidd y broblem yn ymarferol.

A selection of cooked vegetables

Manteision y gefnogaeth

O ganlyniad i’r gefnogaeth, cafodd tîm Beacon Foods eu hyfforddi mewn sut i weithredu dadansoddiad o wraidd y broblem yn eu cwmni. Mae defnyddio’r offeryn ymchwiliol yn cynnig llawer o fanteision i weithgynhyrchwyr, gan gynnwys ysgogi gwelliant parhaus wrth reoli diogeledd bwyd, osgoi costau galw cynhyrchion yn ôl a materion sy’n ail-ddigwydd, lleihau cwynion cwsmeriaid, a diogelu enw da’r brand.

Dywedodd Mark Commons, Cydlynydd Hyfforddiant, Beacon Foods:

“Mae hyfforddiant dadansoddiad o wraidd y broblem ZERO2FIVE wedi arwain at newid mewn meddylfryd ymhlith ein tîm sydd wedi arwain at ganlyniadau gwell ar gyfer ymchwilio i unrhyw faterion diogeled bwyd posibl. Mae ein staff yn cael eu grymuso i gynnal ymchwiliadau manwl i gefnogi deall achos sylfaenol problemau.”

HELIX Programme and Food and Drink Wales logos

Cysylltwch â ni

Os hoffech gael gwybod mwy am sut y gallwn helpu eich busnes neu os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cymorth y gallwn ei gynnig, yna cysylltwch â ni.

Cysylltwch â ni