Skip to main content
Chwiliwch y wefan

Stori llwyddiant: Rogue Welsh Cakes

Cefndir

Yn eiddo i dîm mam a mab, Joe a Maria Granville, mae Rogue Welsh Cakes yn cynhyrchu pice ar y maen wedi’u gwneud â llaw sydd â blasau annisgwyl fel siocled a charamel hallt a thomato wedi’i sychu yn yr haul a ffeta.

Mae Rogue Welsh Cakes, y’i sefydlwyd yn 2020, yn gwerthu ei gynnyrch yn eu stondin a agorwyd yn ddiweddar ym Marchnad Casnewydd yn ogystal â marchnadoedd ffermwyr ledled de Cymru. Mae Joe i’w weld yn gwisgo gwisg draddodiadol Gymreig yn rheolaidd wrth redeg y stondin.

Mae Joe, sy’n gyn-weithiwr cymorth gofal iechyd, yn frwd dros fwyd ac wedi bod eisiau sefydlu ei fusnes bwyd ei hun erioed. Yn ystod y cyfnod clo yn 2020, ymunodd â’i fam Maria, nyrs iechyd meddwl sydd hefyd yn bobydd brwd, a ganed Rogue Welsh Cakes.

Cysylltodd Rogue Welsh Cakes â ZERO2FIVE ym mis Awst 2021 pan oeddent yn chwilio am gymorth i adolygu eu harferion gweithgynhyrchu presennol i’w gwneud yn fwy effeithlon, gwella ansawdd y cynnyrch a’i gwneud yn haws i gynyddu maint y cynhyrchiad.

The Rogue Welsh Cake Company logo
Rogue Welsh Cakes photo

Cymorth gan ZERO2FIVE

Treuliodd Rogue Welsh Cakes ddiwrnod gydag arbenigwyr pobi ZERO2FIVE yn eu ffatri beilot o’r radd flaenaf. Gyda’i gilydd, fe wnaethant adolygu rysáit bresennol y cwmni ac edrych ar gynhwysion eraill a fyddai’n gwella ansawdd y cynnyrch.

Darparwyd mentora hefyd i adolygu prosesau cynhyrchu Rogue ac edrych ar eitemau o offer y gellid eu cyflwyno i’w gwneud yn fwy effeithlon.

Dywedodd Joe Granville, perchennog Rogue Welsh Cakes: “Darparodd ZERO2FIVE gyfle gwych inni roi cynnig ar yr holl offer gorau y gallai fod ei angen ar bobydd. Hefyd, fe wnaethon ni chwarae gyda’r rysáit i ddarganfod pa lefelau o gynhwysion oedd yn gwneud y pice ar y maen o’r gweadedd gorau.”

Manteision y cymorth

Ar ôl cytuno ar rysáit gwell, cynhaliwyd treialon cynhyrchu ym mecws ZERO2FIVE gan ddefnyddio cymysgydd mwy o faint. O ganlyniad, gweithredodd Rogue Welsh Cakes y newidiadau i’w rysáit a phrynu offer cymysgu newydd a arweiniodd at arbedion sylweddol o ran amser a chost.

Dywedodd Joe: “Fe wnaethon ni ddarganfod bod defnyddio cymysgydd mawr yn gwneud toes gwych ar gyfer pice ar y maen, ac yn llawer, llawer cyflymach. Mae hyn wedi arbed cannoedd o oriau o gymysgu â llaw i ni, sydd yn ei dro wedi arbed llawer o arian inni, a’n helpu i gadw ansawdd ein cynnyrch ar yr un safon uchel.

“Byddem yn argymell unrhyw fusnes i gysylltu â ZERO2FIVE; pwy a ŵyr sut y gallan nhw eich helpu chi. Gall rhedeg eich busnes bwyd eich hun fod yn eithaf unig, ond roedd ZERO2FIVE yn andros o gyfeillgar ac yn hynod ddefnyddiol. Byddwn yn sicr yn cysylltu eto pryd bynnag y byddwn yn teimlo mewn picil ac yn gallu gwneud tro â help llaw.”

Cysylltwch â ni i gael gwybod mwy am gymorth a ariennir gan Brosiect HELIX.

Project HELIX and Food & Drink Wales logos

Cysylltwch â ni

Os hoffech gael gwybod mwy am sut y gallwn helpu eich busnes neu os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cymorth y gallwn ei gynnig, yna cysylltwch â ni.

Cysylltwch â ni