Stori llwyddiant: Just Love
Cefndir
Mae’r Just Love Food Company, sydd wedi’i leoli yn Oakdale ger y Coed-duon, ac sy’n cyflogi tua 100 o bobl, yn gwerthu eu dewis o gacennau dathlu cyfeillgar i alergenau i sawl un o fanwerthwyr ac allfeydd gwasanaeth bwyd mwyaf y DU, gan gynnwys Tesco, Asda, Sainsbury’s, Morrisons, Waitrose a Booker.
Sefydlwyd y cwmni yn 2010 gan Mike a Karen Woods pan wnaethant sylweddoli bod bwlch yn y farchnad ar gyfer cacennau dathlu heb gnau i ddarparu ar gyfer teuluoedd â phlant sy’n dioddef o alergeddau i gnau. Dros y blynyddoedd, maen nhw wedi ehangu eu portffolio cynnyrch i gynnwys cacennau heb glwten, heb laeth, heb wyau a figan.
Ar ôl dod yn fwyfwy ymwybodol o gynaliadwyedd a buddion cost posib lleihau gwastraff, cafodd Just Love eu cyfeirio at gymorth gan yr arbenigwyr lleihau gwastraff yng Nghanolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE.


Cefnogaeth gan ZERO2FIVE
Rhoddodd ZERO2FIVE gymorth i Just Love â dau o’u llinellau mwyaf poblogaidd, gan gynnal adolygiad diagnostig o brosesau a pherfformiad gweithredol i ddeall ac amlygu colledion cynnyrch ac aneffeithlonrwydd cynhyrchu posibl a allai arwain at gostau uwch a cholledion o ran amser a llafur.
Cynhaliwyd y diagnosis ar hyd sawl diwrnod, gan archwilio’r prosesau cynhyrchu, pwyso cynhyrchion Just Love ar gamau amrywiol, cynnal astudiaethau amser a symud, a siarad â staff ar lawr ffatri i ddeall y cynhyrchion yn llawn o’r nwyddau i mewn hyd at ddosbarthu.
Manteision y gefnogaeth
Helpodd cymorth ZERO2FIVE y cwmni i ddeall eu prosesau a’u ffrydiau gwastraff yn well. Adroddwyd am y data i Just Love mewn ffordd a allai eu helpu i ddeall yn gyflym ac yn eglur effaith gwastraff ar eu busnes ac amlygu meysydd ar gyfer gwelliannau i’r dyfodol.
Meddai Mike Woods, Prif Swyddog Gweithredol Just Love Food Company:
“Mae agwedd broffesiynol ZERO2FIVE o ran mesur gwastraff ar bob cam o’n proses gynhyrchu a rhoi gwerth ar y gwastraff hwnnw wir wedi ein helpu i ddeall gwerth y cyfle.
“Mae prosiect HELIX yn cynnig dull agored a chydweithredol iawn o rannu gwybodaeth a chwestiynu pam fod gwastraff yn digwydd. Trwy rannu eu harbenigedd, bydd yn ein caniatáu i wella ein galluoedd a gwneud lleihau gwastraff yn ffordd naturiol o weithredu ar bob lefel o’r busnes.”
Roedd y prosiect hwn yn cael ei gyflwyno o dan Brosiect HELIX 2016-2025. O 1af Ebrill 2025, mae’r ariannu wedi parhau fel Rhaglen HELIX.
Cysylltwch â ni i ddysgu mwy am y gefnogaeth gallwn ei gynnig.
Cysylltwch â ni
Os hoffech gael gwybod mwy am sut y gallwn helpu eich busnes neu os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cymorth y gallwn ei gynnig, yna cysylltwch â ni.