Stori llwyddiant: Gower Cottage Brownies
Cefndir
Wedi’i leoli yng nghanol Penrhyn Gŵyr yn Ne Cymru, mae Gower Cottage Brownies yn cynhyrchu brownis siocled artisan, menyn brownie a thryfflau arobryn.
Wedi’i sefydlu yn 2007 gan y tîm gwraig a gŵr Kate a Rob Jenkins, mae’r cwmni’n gwerthu eu cynhyrchion trwy eu gwefan a’r sianel siopa QVC yn unig. Maen nhw’n anfon canoedd o focsys rhodd bob dydd, yn uniongyrchol i gartrefi cwsmeriaid.
Mae BBC Good Food wedi datgan mai Gower Cottage Brownies yw‘r “brownies gorau rydyn ni wedi’u blasu erioed”, tra maent hefyd wedi cael sylw mewn cyhoeddiadau fel yr Independent, y Guardian a’r Telegraph.
Mae ZERO2FIVE wedi darparu cymorth technegol i Gower Cottage Brownies yn flaenorol ac felly cysylltodd Kate a Rob â ni pan oeddent yn edrych i ddiweddaru eu cynllun rheoli diogelwch bwyd HACCP ar gyfer eu brownis siocled. Yn ogystal, roedd Kate a Rob eisiau rhannu’r cyfrifoldeb am HACCP gyda’u goruchwyliwr cynhyrchu a’u rheolwr cynorthwyol; dau aelod o’u tîm a fyddai’n ei ddefnyddio bob dydd.
Cefnogaeth gan ZERO2FIVE
Ymchwiliodd ZERO2FIVE y gofynion ar gyfer cynllun HACCP newydd Gower Cottage Brownies i ddechrau, ochr yn ochr â’r cyd-berchennog Rob, sydd â chefndir mewn rheoli ansawdd.
Ar ôl amlinellu gofynion y cynllun HACCP pwrpasol, cyflwynodd arbenigwr technegol ZERO2FIVE gyfres o weithdai a mentora un-i-ddau ar egwyddorion HACCP i oruchwyliwr cynhyrchu a rheolwr cynorthwyol Gower Cottage Brownies.
Roedd y pynciau a gwmpesir yn cynnwys gofynion hylendid bwyd rhagofynnol, llif y broses gynhyrchu a dadansoddi peryglon. Yn wythnosol, rhoddwyd gwaith cartref i’r ddau aelod o staff, a fyddai wedyn yn cael ei adolygu’r wythnos ganlynol gyda’r technolegydd ZEROFIVE.
Manteision y cymorth
O ganlyniad i’r gefnogaeth gan ZERO2FIVE, mae gan Gower Cottage Brownies gynllun rheoli diogelwch bwyd HACCP wedi’i adnewyddu ar gyfer eu brownis arobryn.
Yr un mor bwysig, mae gan aelodau ychwanegol o dîm Gower Cottage Brownie bellach ddealltwriaeth dda o HACCP. Bydd ymgorffori diwylliant diogelwch bwyd cryf ar draws y cwmni yn galluogi Kate a Rob i gymryd cam yn ôl o rai o’r cyfrifoldebau o ddydd i ddydd o weithredu eu cynllun HACCP.
Bydd ZERO2FIVE yn parhau i gefnogi Gower Cottage Brownies i ddiweddaru eu cynlluniau HACCP ar gyfer eu hystod cynnyrch ychwanegol. Gyda’r wybodaeth wedi’i throsglwyddo i’w goruchwyliwr cynhyrchu a’u rheolwr cynorthwyol, bydd cyfran uwch o’r gwaith hwn yn gallu cael ei wneud yn annibynnol.
Dywedodd Kate Jenkins, cyd-berchennog Gower Cottage Brownies: “Mae’r gefnogaeth amhrisiadwy gan ZERO2FIVE yn golygu bod ein cynllun HACCP wedi’i ddiweddaru wedi’i ddatblygu gan aelodau staff a fydd yn ei ddefnyddio bob dydd. Mae ein tîm yn cynrychioli dyfodol ein busnes ac felly mae datblygu eu harbenigedd rheoli diogelwch bwyd yn hanfodol bwysig.”

Cysylltwch â ni
Os hoffech gael gwybod mwy am sut y gallwn helpu eich busnes neu os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cymorth y gallwn ei gynnig, yna cysylltwch â ni.