Stori llwyddiant: Fiercely Fine
Cefndir
Wedi’i leoli ym Mhowys, mae Fiercely Fine yn fusnes teuluol sy’n arbenigo mewn cynhyrchu bwydydd wedi’u heplesu, gan gynnwys diwylliannau Kimchi, tempeh a kombucha. Mae Fiercely Fine yn gwerthu cynnyrch trwy ei gwefan ac mewn marchnadoedd ffermwyr yn ogystal â chyflenwi cyfanwerthu i fwytai a siopau delicatessen.
Yn berchen i David Stoyel-Hastie, cogydd o 33 mlynedd, a Sarah Stoyel-Hastie, fe benderfynodd y ddau sefydlu’r busnes yn 2020 pan ddaeth eu gwaith ymgynghori i ben yn ystod y pandemig. Roedd David, a oedd yn dioddef o soriasis, wedi sylwi bod ei symptomau wedi gwella ar ôl iddo gynnwys kimchi yn ei ddeiet dyddiol. Felly, eu nod oedd sefydlu cwmni a oedd yn arbenigo mewn bwydydd wedi’u heplesu.
Aethant at Fusnes Cymru am gymorth yn gyntaf a chawsant eu cyfeirio at ZERO2FIVE gan Cywain, sefydliad arall sy’n helpu cwmnïau bwyd a diod o Gymru.


Cymorth gan ZERO2FIVE
Canolbwyntiodd cefnogaeth gan ZERO2FIVE i ddechrau ar adolygiad marchnad o fwydydd wedi’u heplesu gan edrych ar ddemograffeg, maint y farchnad ac adolygiad o gynhyrchion cystadleuwyr gan gynnwys kimchi, kefir dŵr a kombucha. Gwnaeth hyn helpu nhw i sefydlu’r cyfle posibl ar gyfer e busnes newydd.
Cysylltodd Fiercely Fine â ZERO2FIVE am gymorth pellach yn gynnar yn 2022 ar ôl prynu cegin weithgynhyrchu bwrpasol a thra’n chwilio am help gyda HACCP.
Cefnogodd ZERO2FIVE Fiercely Fine gyda datblygiad cynllun HACCP ar gyfer gweithgynhyrchu kimchi a tempeh, gan edrych ar agweddau megis llif prosesau, dadansoddi peryglon a phwyntiau rheoli critigol, sefydlu gweithdrefnau ar gyfer gwirio bod cynllun HACCP yn gweithio’n effeithiol, camau cywiro, a chynhyrchu gwaith papur.
Cynorthwywyd y busnes hefyd i ddatblygu a dehongli canlyniadau amserlen brofi microbioleg i bennu uchafswm oes silff eu kimchi a thymheredd. Yn ogystal, darparwyd cymorth gyda chyfrifo maethol damcaniaethol a labelu cyfreithiol.
Dywedodd y cydberchennog David Stole Hastie: “Gwnaeth gweithio gyda ZERO2FIVE rhoi’r hyder i ni yn ein cynllun HACCP a’n bod ni’n bodloni’r holl reoliadau diogelwch bwyd. Aethom drwy’r cynllun HACCP o’r dechrau i’r diwedd, gair am air.
“Roedd y gefnogaeth hefyd yn golygu bod gennym ni syniad da iawn o sut i ddatblygu ein cynllun HACCP wrth i ni greu cynnyrch newydd. Nid oedd yn unig am y cynhyrchion oedd gennym, ond yr hyn y gallem ei wneud nesaf.”
Manteision y cymorth
O Ganlyniad i’r gefnogaeth gan ZERO2FIVE, sicrhaodd Fiercely Fine sgôr hylendid bwyd o bump gan Iechyd yr Amgylchedd, cwblhaodd eu labeli cynnyrch gydag oes silff warantedig, dyfarnwyd Gwobr Nod Gwyrdd am gynaliadwyedd iddynt, a lansiwyd eu cynnyrch yn llwyddiannus yng Ngŵyl Fwyd y Fenni ym mis Medi 2022.
Dywedodd Sarah a David Stoyel Hastie, cyd-berchnogion Fiercely Fine: “Ni fyddem yn oedi cyn gweithio gyda ZERO2FIVE. P’un a oes gennych ychydig neu lawer o wybodaeth am ddiogelwch bwyd, byddem yn cysylltu â nhw. Mae cymaint o feysydd lle gallant ddarparu cefnogaeth.”
“Allwn ni ddim dweud digon ynghylch faint mae ZERO2FIVE wedi ein helpu ni. Ni fyddai ein busnes wedi datblygu heb eu cefnogaeth, rydym yn wirioneddol ddiolchgar.”
Cysylltwch â ni i gael gwybod mwy am gymorth a ariennir gan Brosiect HELIX.
Cysylltwch â ni
Os hoffech gael gwybod mwy am sut y gallwn helpu eich busnes neu os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cymorth y gallwn ei gynnig, yna cysylltwch â ni.