Stori llwyddiant: Authentic Curries & World Foods
Cefndir
Mae Authentic Curries and World Foods yn cynhyrchu amrywiaeth o brydau parod gan ddefnyddio dulliau tebyg i goginio yn y cartref ar gyfer manwerthu, bwytai, tafarndai ac awdurdodau lleol. Mae 38 o weithwyr y cwmni’n cynhyrchu dros 100 o wahanol gynhyrchion yn eu ffatri ag ardystiad Gradd AA, Diogelwch Bwyd BRCGS yn Rhondda Cynon Taf.
Sefydlwyd y cwmni gan David Smith a Paul Trotman ym 1996 ar ôl i Paul aros ym motel David yn Sir Benfro a rhyfeddu at y modd yr oedd cwsmeriaid yn teithio o bell ac agos i flasu cyri David. Gwelodd y ddau’r potensial ar gyfer cyd-fenter busnes ac fe wnaethant benderfynu sefydlu Authentic Curries and World Foods.
Mae gan ZERO2FIVE hanes hir o ddarparu cefnogaeth dechnegol i Authentic Curries and World Foods i’w helpu i gynnal eu hardystiad BRGS. Mae’r ardystiad diogelwch bwyd hwn yn hanfodol i ddangos bod y cwmni’n gweithredu yn unol â safonau diogelwch a gydnabyddir gan y diwydiant, ac mae hefyd yn ofyniad gan lawer o’u cwsmeriaid mwyaf.


Cymorth gan ZERO2FIVE
Er mwyn helpu Authentic Curries and World Foods gynnal eu hardystiad BRCGS, mae tîm technegol ZERO2FIVE yn cynnal archwiliad rheolaidd o systemau diogelwch bwyd y cwmni yn erbyn gofynion y safon. O ganlyniad i’r gwaith yma, mae ZERO2FIVE yn darparu hyfforddiant a mentor ar y safle mewn meysydd allweddol i helpu’r cwmni ddatblygu lefel eu cydymffurfiaeth â’r safon. Mae pynciau’r archwiliad mewnol diweddar yn cynnwys y gallu i olrhain, ac ymrwymiad uwch reolwyr i ddiogelwch bwyd.
Manteision y cymorth
Fe wnaeth Authentic Curries and World Foods basio eu harchwiliad fwyaf diweddar ym mis Tachwedd 2024 gyda gradd AA ac mae cynnal yr ardystiad hwn wedi caniatâu’r cwmni i ddiogelu 38 so swyddi ac i gynnal gwerthiant o dros £1 miliwn.
Paul Trotman, Rheolwr Gyfarwyddwr, Authentic Curries and World Foods: “Mae’r gefnogaeth a gawsom gan ZERO2FIVE wedi gwneud byd o les inni. Mae cael arbenigedd o’r tu allan yn dod i mewn a’n harchwilio ni er mwyn paratoi ar gyfer BRCGS wedi bod yn amhrisiadwy. Mae’r holl gysylltiad a gawsom gyda Phrifysgol Met Caerdydd wedi bod yn anhygoel ac mae’n helpu pethau i fynd rhagddynt yn llawer mwy rhwydd.”
Cysylltwch â ni i gael fwy o wybodaeth am gymorth a ariennir drwy Raglen HELIX Llywodraeth Cymru.
Cysylltwch â ni
Os hoffech gael gwybod mwy am sut y gallwn helpu eich busnes neu os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cymorth y gallwn ei gynnig, yna cysylltwch â ni.