
Mae Rhaglen HELIX yn darparu cymorth a ariennir ar gyfer ardystio diogelwch bwyd, NPD a chymorth effeithlonrwydd prosesau i gwmnïau bwyd a diod cymwys o Gymru.
Mae cymorth gan Raglen HELIX Llywodraeth Cymru yn hyblyg ac wedi’i deilwra i anghenion unigol eich busnes. Gall cwmnïau gael mynediad i gyfleusterau ZERO2FIVE ac arbenigedd ein timau technegol, academaidd a chymorth busnes. P’un a ydych chi’n fusnes newydd sydd angen cymorth gyda rheoli diogelwch bwyd neu’n fusnes sefydledig sy’n edrych am gefnogaeth gyda datblygu cynnyrch newydd, gallwn ni helpu.
Cysylltwch â ni
Os hoffech gael gwybod mwy am sut y gallwn helpu eich busnes neu os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cymorth y gallwn ei gynnig, yna cysylltwch â ni.