Lleihau gwastraff
Yma yn ZERO2FIVE gallwn gefnogi busnesau bwyd a diod i fod yn fwy cynaliadwy mewn nifer o feysydd allweddol:
- Mapio gwastraff – Gallwn eich helpu i nodi pwyntiau rheoli gwastraff yn eich prosesau gweithgynhyrchu, o fwyd i becynnu ac ynni. Gallwn eich helpu i roi offer ar waith i fesur a lleihau gwastraff yn ogystal â chefnogi eich cwmni i wella ei ddiwylliant gwastraff.
- Effeithlonrwydd proses – Gallwn eich cefnogi i wella effeithlonrwydd prosesau ar lawr eich siop, gan gynnwys eich helpu i roi mesurau rheoli ar waith i leihau colledion coginio a gwella cynnyrch.
- Datblygu cynnyrch newydd cynaliadwy (NPD) – Gallwn eich helpu i greu cynhyrchion bwyd a diod newydd cynaliadwy, gan gynnwys nodi defnyddiau amgen ar gyfer eich cynhyrchion gwastraff.
- Cadwyni cyflenwi cynaliadwy– Gallwn eich helpu i fabwysiadu prosesau cadarn ar gyfer cymeradwyo, dethol, asesu risg a monitro cyflenwyr fel y gall eich busnes ddod o hyd i ddeunyddiau crai a phecynnu cynaliadwy priodol.
- Masnach Foesegol & Chyrchu Cyfrifol (MFChC) BRCGS – Gallwn eich helpu chi i ddilyn dull sy’n seiliedig ar asesu risg er mwyn deall yr hyn mae ymrwymo i MFChC yn ei olygu, o safonau llafur ac iechyd a diogelwch i barchu hawliau dynol a llywodraethu corfforaethol.


Cysylltwch â ni
Os hoffech gael gwybod mwy am sut y gallwn helpu eich busnes neu os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cymorth y gallwn ei gynnig, yna cysylltwch â ni.