Skip to main content
Chwiliwch y wefan

Datblygu cynnyrch newydd

Mae datblygu cynnyrch newydd (NPD) a datblygu cynnyrch presennol (EPD) yn hanfodol i unrhyw fusnes bwyd a diod. 

A ydych yn bwriadu datblygu a lansio cynhyrchion llwyddiannus newydd neu wedi’u hailfformiwleiddio sy’n bodloni gofynion defnyddwyr, sy’n hyfyw yn ariannol, sy’n bodloni safonau diogelwch bwyd, ac sy’n cydymffurfio â’r rheoliadau gwybodaeth bwyd diweddaraf?

Os felly, gallwn ddarparu amrywiaeth o gymorth:

  • Dadansoddiad o’r farchnad ac ymchwil i dueddiadau – i’ch helpu i sefydlu a oes marchnad ar gyfer eich cynnyrch a chymorth i fireinio’ch syniad am gynnyrch
  • Datblygu rysáit – o gysyniadau cegin cychwynnol i gefnogaeth ar y safle ar gyfer cynyddu cynhyrchiant, treialon proses a lansio
  • Ystyriaethau diogelwch bwyd – gan gynnwys pennu microbioleg a hyd oes, rheoli alergenau, cyrchu deunydd crai, dilysu thermol a llif prosesau
  • Ailfformiwleiddio cynnyrch – i’ch helpu i wneud eich cynhyrchion yn iachach neu amnewid cynhwysion at ddibenion cost
  • Cymorth asesu ansawdd – gall hyn gynnwys gwerthusiad synhwyraidd i brofi eich cynhyrchion yn erbyn cystadleuwyr a datblygu Taflen Priodoledd Ansawdd i osod paramedrau cynnyrch terfynol megis maint a lliw
  • Pecynnu cynnyrch – cymorth gyda labelu, honiadau iechyd a gwybodaeth am faeth
Pouring chocolate cake mix into foil baking tray
Technologist inspects pies

Cysylltwch â ni

Os hoffech gael gwybod mwy am sut y gallwn helpu eich busnes neu os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cymorth y gallwn ei gynnig, yna cysylltwch â ni.

Cysylltwch â ni