Cyfeiriadur Bwyd a Diod Cymru
Wedi’i ddatblygu gan Arloesi Bwyd Cymru, mae Cyfeiriadur Bwyd a Diod Cymru yn cynnwys mwy na 500 o gwmnïau sy’n gweithgynhyrchu cynhyrchion bwyd a diod o safon yng Nghymru.
Gallwch chwilio’r cyfeiriadur am gynhyrchwyr cynhyrchion, cynhwysion, deunydd pacio a sgil-gynhyrchion, partneriaid cadwyn gyflenwi addas, gweithgynhyrchwyr â gallu cynhyrchu labeli preifat, a chwmnïau sy’n cynnig gwasanaethau cyd-bacio.
Chwiliwch y cyfeiriadur neu crëwch gofnod ar gyfer eich cwmni yma.

Cysylltwch â ni
Os hoffech gael gwybod mwy am sut y gallwn helpu eich busnes neu os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cymorth y gallwn ei gynnig, yna cysylltwch â ni.