Yn anffodus nid yw cyfleusterau labordy Prifysgol Metropolitan Caerdydd wedi’u hachredu gan UKAS gan eu bod yn cael eu defnyddio’n bennaf at ddibenion academaidd ac ymchwil. O ganlyniad, nid ydym yn cynnal dadansoddiadau maethegol arferol yn ein labordai ymchwil ac addysgu. Fodd bynnag, gallwn eich cyfeirio at labordai achrededig UKAS a all gynnal dadansoddiad maethegol, a’ch helpu i ddehongli’ch canlyniadau ar ôl eu derbyn.
Mae gennym fynediad at feddalwedd cyfrifo maeth y gellir ei ddefnyddio i roi syniad o gyfansoddiad maethegol eich cynnyrch yn seiliedig ar y rysáit a gwybodaeth am golledion coginio a gyflenwir gan eich busnes.