Skip to main content
Chwiliwch y wefan

Cefnogaeth fasnachol a marchnata

Mae tîm ZERO2FIVE yn darparu cymorth masnachol a marchnata i gwmnïau bwyd a diod. Mae ein cefnogaeth yn canolbwyntio ar:

Dadansoddiad o’r farchnad a mewnwelediad

Gallwn eich helpu i wneud penderfyniadau mwy gwybodus am ddatblygu cynnyrch newydd, categorïau ac allforio drwy roi gwell dealltwriaeth i chi o’r farchnad.

Drwy Lywodraeth Cymru mae gennym fynediad at ystod eang o adroddiadau tueddiadau a data marchnad gan The Food People, Kantar Worldpanel a Global Data. Os oes gennych ddiddordeb mewn cael unrhyw ran o’r data hwn gan ZERO2FIVE, cwblhewch y ffurflen ymholiad yma.

People discussing business around the ZERO2FIVE table
Person viewing survey on laptop

Mae pob prosiect yn wahanol ac yn debygol o gynnwys:

  • Perfformiad categori
  • Mewnwelediadau defnyddwyr
  • Tueddiadau cynnyrch
  • Mewnwelediadau i’r farchnad
  • Sianeli allweddol a phartneriaid masnach
  • Cystadleuwyr allweddol
  • Ystodau cynnyrch cyfredol
  • Bylchau a chyfleoedd
  • Argymhellion

Mentora marchnata

Gallwn gynnig mentora 1 i 1/grŵp wedi’i deilwra i ofynion eich cwmni, o archwilio brand i ddatblygu strategaeth farchnata.

Cysylltwch â ni

Os hoffech gael gwybod mwy am sut y gallwn helpu eich busnes neu os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cymorth y gallwn ei gynnig, yna cysylltwch â ni.

Cysylltwch â ni