Skip to main content
Chwiliwch y wefan

Cefnogaeth cychwyn busnes

Rydym yn cynnig amrywiaeth o gymorth cychwyn busnes i gwmnïau bwyd a diod o Gymru. Pa bynnag gam o’r daith rydych chi arno, gallwn eich helpu ar hyd y ffordd:

  • Gweithdai cywchwyn busnes – Rydym yn cynnal gweithdai rheolaidd sy’n rhoi trosolwg o’r ystyriaethau allweddol i unrhyw un sy’n ystyried sefydlu busnes gweithgynhyrchu bwyd. Gweler ein tudalen hyfforddiant a digwyddiadau am ragor o fanylion.
  • Cofrestru busnes bwyd– Gallwn eich cefnogi gydag adolygiad cychwynnol o’r gofynion ar gyfer cofrestru busnes bwyd. 
  • HACCP– Mae’n ofyniad cyfreithiol yn y DU i bob cwmni bwyd a diod gael cynllun diogelwch bwyd yn seiliedig ar egwyddorion Dadansoddi Peryglon a Phwynt Rheoli Critigol (HACCP). Mae eich cynllun HACCP yn cadw’ch bwyd yn ddiogel rhag peryglon diogelwch bwyd biolegol, cemegol a chorfforol. Rydym yn cynnig gweithdai HACCP yn ogystal â chymorth pwrpasol.
  • Datblygu cynnyrch newydd– O gael syniad hyd at lansio mewn manwerthwyr, gallwn eich cefnogi i ddatblygu cynnyrch newydd. Mae llawer o bethau i’w hystyried, gan gynnwys a oes bwlch yn y farchnad ar gyfer eich cynnyrch ac a yw’n broffidiol, datblygu ryseitiau, cael adborth gan ddefnyddwyr, a chael oes silff ddigonol.
  • Cymeradwyo cynnyrch a reoleiddir– A ydych yn siŵr bod y cynhwysion rydych chi’n bwriadu eu defnyddio yn eich cynnyrch wedi’u hawdurdodi ar gyfer defnydd o fwyd yn y DU? Os oes angen, gallwn eich helpu i adolygu’r gofynion ar gyfer y broses ‘Cymeradwyo Cynnyrch a Reoleiddir’ gyda’r Asiantaeth Safonau Bwyd.
  • Gwybodaeth labelu a maeth– Gallwn eich helpu i sicrhau bod y wybodaeth rydych chi’n ei chynnwys ar eich labeli cynnyrch yn cydymffurfio â’r rheoliadau gwybodaeth bwyd diweddaraf. A yw’r honiadau maeth ac iechyd yr ydych yn eu gwneud yn gywir ac yn gyfreithlon? A ydych wedi datgan yn gywir gynhwysion, oes silff, gwybodaeth faethol ac alergenau? Efallai y bydd angen i chi ystyried cyfarwyddiadau coginio hefyd. 
  • Cynyddu cynhyrchiant– Unwaith y byddwch wedi llwyddo i greu rysáit cynnyrch yn eich cegin gartref, mae siawns dda y bydd angen i chi gynyddu cynhyrchiant i gegin fasnachol neu ffatri. Gallwn eich helpu i feddwl am y prosesau a’r offer y gallai fod eu hangen arnoch i gyflawni hyn. ​
Lighbulp made up of different food items graphic
Open on the window of a cafe

Cysylltwch â ni

Os hoffech gael gwybod mwy am sut y gallwn helpu eich busnes neu os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cymorth y gallwn ei gynnig, yna cysylltwch â ni.

Cysylltwch â ni