Ardystiad diogelwch bwyd
Mae cynlluniau ardystio diogelwch bwyd fel SALSA a BRCGS yn bwysig i lawer o weithgynhyrchwyr gan eu bod yn dangos eu bod yn gweithredu i safonau diogelwch bwyd a gydnabyddir gan y diwydiant. Mae hyn yn eu galluogi i gyflenwi eu cynnyrch i fanwerthwyr, cyfanwerthwyr a darparwyr gwasanaeth bwyd cenedlaethol a rhanbarthol.
Yma yn ZERO2FIVE, gallwn eich cefnogi gyda phob agwedd ar sicrhau neu gynnal ardystiad BRCGS neu SALSA.
Ardystiad SALSA
Wedi’i gynllunio ar gyfer cynhyrchwyr a chyflenwyr bwyd llai, mae SALSA yn un o’r cynlluniau ardystio diogelwch bwyd mwyaf cydnabyddedig yn y DU gyda dros 2000 o aelodau.
Er mwyn cefnogi eich cwmni i sicrhau neu gynnal ardystiad SALSA, gallwn ddarparu mentora i’ch helpu i adolygu a dylunio eich systemau rheoli diogelwch bwyd yn unol â gofynion SALSA. Gallwn hefyd gynnal archwiliad mewnol yn erbyn y safonau i’ch helpu i ddatblygu cynllun gweithredu i fodloni ei ofynion.
I gael rhagor o wybodaeth am Safon SALSA, ewch i wefan SALSA.
I gael enghreifftiau o’r cymorth SALSA y gallwn ei gynnig, gweler ein stori llwyddiant Joe’s Ice Cream a’n stori llwyddiant Peak Supps.
Ardystiad BRCGS
Defnyddir Safon Diogelwch Bwyd Byd-eang BRCGS gan dros 22,000 o safleoedd gweithgynhyrchu bwyd a diod mewn mwy na 130 o wledydd ac fe’i derbynnir gan 70% o’r 10 prif fanwerthwr byd-eang. Yn aml caiff ei weld fel y cam nesaf ar ôl SALSA ar gyfer cwmnïau bwyd a diod mwy.
Wedi’i ddatblygu gyda mewnbwn gan ddiwydiant, mae safon BRCGS yn darparu fframwaith i reoli diogelwch cynnyrch, cywirdeb, cyfreithlondeb ac ansawdd, a’r rheolaethau gweithredol ar gyfer y meini prawf hyn mewn gweithgynhyrchu bwyd a diod.
Yma yn ZERO2FIVE mae gennym brofiad sylweddol o gefnogi busnesau sy’n dymuno sicrhau ardystiad BRCGS, a safleoedd sydd eisoes wedi’u hardystio i’r safon.
Gallwn ddarparu mentora i’ch helpu i greu a dilysu systemau rheoli diogelwch bwyd sy’n bodloni gofynion safon BRCGS.
Yn ogystal, gallwn gefnogi busnesau drwy gynnal archwiliadau mewnol yn erbyn safon BRCGS. Bydd yr archwiliad yn asesu statws presennol eich systemau rheoli diogelwch bwyd ac yn darparu cynllun gweithredu manwl a fydd yn eich helpu i gyflawni gofynion safon BRCGS.
I gael rhagor o wybodaeth am Safon BRCGS, ewch i wefan BRCGS.
I gael enghreifftiau o’r cymorth BRCGS y gallwn ei gynnig, gweler ein stori llwyddiant The Welsh Pantry a’n stori llwyddiant Authentic Curries & World Foods.


Cysylltwch â ni
Os hoffech gael gwybod mwy am sut y gallwn helpu eich busnes neu os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cymorth y gallwn ei gynnig, yna cysylltwch â ni.