O dan Ddeddf Rheoli Cymhorthdal 2022 (“y Ddeddf”), cymhorthdal yw pan fydd awdurdod cyhoeddus yn rhoi cymorth i fenter sy’n rhoi mantais economaidd iddynt, sy’n golygu na ellid cael cymorth cyfatebol ar delerau masnachol. Gall hyn fod ar ffurf grant, egwyl treth, benthyciad, gwarant, ariannu gwasanaethau yn rhannol, darparu gwasanaethau heb gost, neu fuddsoddiad ecwiti ar delerau ffafriol, ymhlith mathau eraill o gymorth.
Mae’r Prosiect Arloesi Bwyd a Thechnoleg ar gyfer Llwyddiant yn darparu gwasanaethau heb gost a (lle bo’n berthnasol) 100%, 80% neu 50% o gost y prosiect fel grant a ariennir, ac mae’r gwasanaethau hyn yn cael eu cynnig i chi gennym fel Cymorth Ariannol Lleiaf. O dan y Ddeddf, mae’r Cymorth Ariannol Lleiaf yn caniatáu i awdurdodau cyhoeddus ddyfarnu cymorthdaliadau gwerth isel heb fod angen iddynt gydymffurfio â mwyafrif y gofynion rheoli cymhorthdal. Mae gan y Cymorth Ariannol Lleiaf drothwy ariannol felly ni all unrhyw dderbynnydd gael mwy na £315,000 dros y cyfnod cymwys o dan adran 36 (1) o’r Ddeddf.
Mae rheolau cronni yn berthnasol i’r Cymorth Ariannol Lleiaf. Mae hyn yn hanfodol i sicrhau bod y DU yn cydymffurfio â’i rhwymedigaethau rhyngwladol. Mae cymorthdaliadau Cymorth Ariannol Lleiaf yn crynhoi â’i gilydd a gyda chymorthdaliadau eraill sy’n dod o fewn y categori ‘Cymorth Ariannol Lleiaf’ neu ‘Gwasanaeth o Fudd Economaidd Cyhoeddus (SPEI)’. Mae hyn yn dal yr holl wahanol eithriadau gwerth isel y gallai menter eu derbyn mewn cymorth gan awdurdodau cyhoeddus y DU. Dylid ystyried y canlynol i gyd yn ystod y ddwy flynedd ariannol gyfredol a’r ddwy flynedd flaenorol:
- Cymorth Ariannol Lleiaf
- Cymorth SPEI
- Cymorth a roddir o dan reoliadau cymorth gwladwriaethol de minimis yr UE cyn diwedd y cyfnod gweithredu o 31 Rhagfyr 2020
- Cymorthdaliadau a roddir fel symiau bach o gymorth ariannol (SAFA) o dan Erthyglau 364 (4) neu 365 (3) o Gytundeb Masnach a Chydweithrediad y DU-UE ar ôl diwedd y cyfnod gweithredu ond cyn i’r adran hon o’r Ddeddf ddod i rym.
Adolygwch a nodwch unrhyw un o’r cymorth uchod rydych wedi’i dderbyn yn ystod y 3 blynedd ariannol ddiwethaf gan gynnwys cymorth gwladwriaeth/cymorthdaliadau yr UE. Os oes gennych amheuaeth ynghylch sut mae cymorth blaenorol yn cael ei dosbarthu, cysylltwch â’r sefydliad a’i darparodd.
Rhaid rhoi cadarnhad gan rywun sydd wedi’i awdurdodi i wneud hynny ar ran eich sefydliad, mae’n bosib yr hoffech gael cyngor gan eich cyfrifydd busnes.
Rydym yn manteisio ar y cyfle hwn i’ch atgoffa bod yn ofynnol i chi gadw cofnod ysgrifenedig o swm Cymorth Ariannol Lleiaf rydych wedi’i dderbyn a’r dyddiad/au pan gafodd ei dderbyn. Rhaid cadw’r cofnod ysgrifenedig am o leiaf dair blynedd gan ddechrau gyda’r dyddiad y rhoddwyd y Cymorth Ariannol Lleiaf. Bydd hyn yn eich galluogi i ymateb i geisiadau gan awdurdodau’r cyhoedd yn y dyfodol ynghylch faint o Gymorth Ariannol Lleiaf y mae eich sefydliad wedi’i dderbyn ac a ydych wedi cyrraedd y trothwy cronnus.
Maint busnes
Bydd maint eich busnes yn dylanwadu ar y rheolaeth cymhorthdal (gwerth wedi’i ariannu) a’r gwerth cyfraniad y gallai fod angen ei wneud tuag at y gweithdy. Os nad ydych yn siŵr, cyfeiriwch at eich arweinydd ariannol busnes gan y gallai diffinio maint eich busnes yn anghywir arwain taliadau a godwyd yn ddiweddarach.
Defnyddiwch y tabl isod i bennu maint eich busnes:
Categori menter | Cyfrif Pennau Uned waith blynyddol (AWU) | Trosiant blynyddol | Cyfanswm y fantolen flynyddol |
Mawr* | Os nad ydynt yn bodloni mwy nag 1 o’r meini prawf a nodwyd yn erbyn busnes maint Canolig | ||
Canolig | Dim mwy na 250 | Dim mwy na £36m | Dim mwy na £18m |
Bach | Dim mwy na 50 | Dim mwy na £10.2m | Dim mwy na £5.1m |
Micro | Dim mwy na 10 | Dim mwy na £632K | Dim mwy na £316K |
*Sylwer os yw’ch busnes yn rhan o grŵp yna bydd yn cael ei ystyried yn fawr at ddibenion rheoli cymhorthdal.
Lle and yw’n glir beth yw’r swm cywir o’r cymorth MFA, dylai’r swm gwerth cyfansawdd fod y swm mwyaf posibl o’r cymorth a allai gael ei roi, neu’r amcangyfrif rhesymol mwyaf. Os rhoddir swm is o gymorth, bydd ZERO2FIVE yn cyhoeddi cadarnhad MFA newydd sy’n nodi’r swm o gymorth a roddwyd, fel y gall y menter fod yn gymwys i dderbyn mwy o MFA o ffynonellau eraill drwy gydol y cyfnod tair blynedd.