
Mae Prosiect HELIX yn darparu cymorth technegol a masnachol wedi’i ariannu i gwmnïau bwyd a diod cymwys o Gymru.
Mae cymorth Prosiect HELIX yn hyblyg ac wedi’i deilwra i anghenion unigol eich busnes. Gall cwmnïau gael mynediad i gyfleusterau ZERO2FIVE ac arbenigedd ein timau technegol, academaidd a chymorth busnes. P’un a ydych chi’n fusnes newydd sydd angen cymorth gyda rheoli diogelwch bwyd neu’n fusnes sefydledig sy’n chwilio am gefnogaeth gyda datblygu cynnyrch newydd, gallwn ni helpu.

Ariennir Prosiect HELIX gan Lywodraeth Cymru ac mae’n fenter Cymru gyfan a ddarperir gan Arloesi Bwyd Cymru.
Ers mis Gorffennaf 2023, mae Arloesi Bwyd Cymru wedi cyflawni’r allbynnau canlynol drwy Brosiect HELIX:



Cysylltwch â ni
Os hoffech gael gwybod mwy am sut y gallwn helpu eich busnes neu os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cymorth y gallwn ei gynnig, yna cysylltwch â ni.