Skip to main content
Chwiliwch y wefan

Penodi arbenigwr blaenllaw ym maes diogelwch bwyd Cymru’n Athro

2 min read 11/07/2022

Professor

Mae arbenigwr diogelwch bwyd blaenllaw yng Nghymru wedi’i phenodi’n Athro.

Mae Dr Elizabeth Redmond wedi’i phenodi’n Athro Diogelwch, Iechyd ac Ymddygiad Bwyd yng Nghanolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE Prifysgol Metropolitan Caerdydd.

Bu’r Athro Redmond yn ymwneud ag ymchwil diogelwch bwyd ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd dros y 26 mlynedd diwethaf ac mae’n Arweinydd y Grŵp Ymchwil yn Uned Ymchwil Bwyd a Diod ZERO2FIVE ar hyn o bryd. Mae diddordebau academaidd allweddol Elizabeth yn cynnwys archwilio ffactorau cymdeithasol, gwybyddol ac ymddygiadol sy’n gysylltiedig â diogelwch bwyd yn y sectorau defnyddwyr, gofal iechyd a diwydiant bwyd. Mae ganddi ddiddordeb arbennig mewn diogelwch bwyd defnyddwyr gyda ffocws ar bathogenau penodol, bwydo babanod a chynulleidfaoedd ‘mewn perygl’ (er enghraifft, cleifion/gofalwyr cemotherapi ac oedolion hŷn).

Ymhlith meysydd ffocws eraill Elizabeth y mae diwylliant diogelwch bwyd mewn gweithgynhyrchu bwyd a gwasanaeth bwyd, addysg diogelwch bwyd gweithwyr gofal iechyd proffesiynol fel deietegwyr, a datblygu ymyriadau sy’n seiliedig ar ddata a damcaniaeth ar gyfer grwpiau targed. Ar y cyfan, nod cryn dipyn o’i hymchwil yw cynyddu gweithrediad ymddygiadau diogelwch bwyd sy’n lleihau risg ac, yn y pen draw, cyfrannu at leihau achosion o glefydau a gludir gan fwyd. Mae ymchwil Elizabeth wedi arwain at gyhoeddi/awduraeth mwy na 55 cyhoeddiad ymchwil a dros 190 o gyfraniadau i gynadleddau cenedlaethol a rhyngwladol.

Ar hyd y 26 mlynedd diwethaf, mae’r Athro Redmond hefyd wedi cyfrannu at fwy na 25 o brosiectau ymchwil amlddisgyblaethol, ac wedi bod yn Brif Ymchwilydd arnynt, ar gyfer sefydliadau proffil uchel fel Asiantaeth Safonau Bwyd y DU a Llywodraeth Cymru. Mae Elizabeth wedi bod yn ysgolhaig gwadd ar gyfer cydweithrediadau ariannu cenedlaethol a rhyngwladol, rolau golygyddol ac arholi PhD. Mae hi hefyd wedi gweithio gyda chydweithredwyr rhyngwladol o bob cwr o’r byd gan gynnwys Ffrainc, Lebanon, Brasil, UDA a Seland Newydd ac mae hi hefyd yn ymddiriedolwr dros awdurdod gwyddonol rhyngwladol blaenllaw.

Yn ogystal â chynnal ymchwil ZERO2FIVE, mae’r Athro Redmond yn Gyfarwyddwr Astudiaethau a Goruchwyliwr ar gyfer astudiaethau diogelwch bwyd ymchwil Ôl-Ddoethurol, PhD, Doethuriaeth Broffesiynol, Meistr ac Israddedig. Mewn cydnabyddiaeth o’i hymrwymiad i’w rôl oruchwylio, enillodd Elizabeth wobr ‘Tîm Goruchwylio Eithriadol y Flwyddyn’ yng Ngwobrau Goruchwylwyr Ymchwilwyr Doethurol cyntaf Met Caerdydd eleni, ochr yn ochr â’i chydweithiwr, Dr Ellen Evans.

Wrth siarad am ei phenodiad, dywedodd yr Athro Redmond, “Mae’n anrhydedd mawr cael fy ngwobrwyo â theitl Athro Diogelwch, Iechyd ac Ymddygiad Bwyd. Rwy’n edrych ymlaen at barhau ag ymchwil diogelwch bwyd gwreiddiol, o ansawdd uchel, sy’n cael effaith ym Met Caerdydd yng Nghanolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE, a’i ddatblygu ymhellach. Rwy’n bwriadu ehangu ein tîm ymchwil ag astudiaethau ymchwil Ôl-ddoethurol, Doethurol a chydweithredol newydd a pharhau i feithrin partneriaethau yn y DU ac yn rhyngwladol er budd y sectorau defnyddwyr, gofal iechyd a diwydiant bwyd, ac, yn y pen draw, effeithio ar ddiogelwch bwyd, a’i wella, ledled y byd.” 

Meddai’r Athro David Lloyd, Cyfarwyddwr Canolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE, “Mae penodiad Elizabeth fel Athro yn gamp aruthrol ac mae’n cydnabod ei chyfraniad at ymchwil diogelwch bwyd yn y DU.”

Cysylltwch â ni

Os hoffech gael gwybod mwy am sut y gallwn helpu eich busnes neu os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cymorth y gallwn ei gynnig, yna cysylltwch â ni.

Cysylltwch â ni