Skip to main content
Chwiliwch y wefan

Hygyrchedd

Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i wefan ZERO2FIVE.org.uk.

Mae Canolfan y Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd sy’n rhedeg y wefan hon. Mae arnom eisiau i gynifer â phosibl o bobl allu defnyddio’r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny’n golygu y dylech allu gwneud y canlynol:

  • cynyddu a lleihau maint testun y wefan trwy borwr
  • tanlinellu’r holl ddolenni trwy borwr
  • newid lliw’r wefan i ddefnyddio graddfa lwyd trwy’r porwr
  • newid lliw y wefan i ddefnyddio cyferbyniad uchel trwy borwr
  • newid lliw y wefan i ddefnyddio cyferbyniad negyddol trwy borwr
  • newid lliw y wefan i ddefnyddio cefndiroedd golau trwy borwr
  • llywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd neu feddalwedd adnabod lleferydd
  • gwrando ar y rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)

Pa mor hygyrch yw’r wefan hon

  • Rydym yn gwybod nad yw pob rhan o’r wefan hon yn gwbl hygyrch:
  • ni fydd y testun yn ail-lifo mewn un golofn pan fyddwch yn newid maint ffenestr y porwr
  • ni allwch addasu uchder llinell neu fylchau testun
  • nid yw’r rhan fwyaf o ddogfennau PDF hŷn yn gwbl hygyrch i feddalwedd darllen sgrin
  • efallai na fydd gan fideos wedi’u mewnosod (fel YouTube / Vimeo) gapsiynau
  • gall rhai tudalennau ddefnyddio tablau at ddibenion cyflwyno

Adborth a gwybodaeth gyswllt

Os ydych yn dod ar draws unrhyw broblemau nad ydynt wedi cael eu rhestru ar y dudalen hon, neu os ydych yn credu nad ydym yn bodloni’r gofynion hygyrchedd, cysylltwch â: ZERO2FIVEmarketing@cardiffmet.ac.uk

Os oes angen yr wybodaeth ar y wefan hon arnoch mewn fformat gwahanol, fel PDF hygyrch, print bras, hawdd ei ddarllen, recordiad sain neu braille:

E-bost: ZERO2FIVEmarketing@cardiffmet.ac.uk

Ffôn: 029 2041 6070

Byddwn yn ystyried eich cais ac yn dod yn ôl atoch cyn pen 5-10 diwrnod gwaith.

Os nad ydych yn gallu gweld y map ar ein tudalen ‘cysylltu â ni’, anfonwch e-bost atom neu codwch y ffôn ZERO2FIVE.org.uk/cy/cysylltu-a-ni i gael cyfarwyddiadau.

Gweithdrefn gorfodi

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) sy’n gyfrifol am weithredu Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os ydych chi’n anhapus â’r ffordd rydyn ni’n ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb (EASS).

Cysylltu â ni ar y ffôn neu ymweld â ni

Rydym yn cynnig gwasanaeth cyfnewid testun i bobl sy’n B/byddar, sydd â nam ar eu clyw neu sydd â nam ar eu lleferydd.

Mae system dolen glywed yn ein swyddfeydd, neu os byddwch yn cysylltu â ni cyn eich ymweliad gallwn drefnu dehonglydd Iaith Arwyddion Prydain.

Sut mae cysylltu â ni ZERO2FIVE.org.uk

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae Mae Canolfan y Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd wedi ymrwymo i wneud ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.2].

Paratoad y datganiad hygyrchedd hwn

Paratowyd y datganiad hwn ar 19/02/2025.

Profwyd y wefan hon ddiwethaf ar 19/02/2025. Cynhaliwyd y prawf gan:

Orangedrop Design

Merlin House
Priory Dr
Langstone
Newport
NP18 2HJ

oddd.co.uk

Mae pob tudalen ar y wefan ar adeg cyhoeddi’r datganiad hwn wedi’i phrofi gan ddefnyddio WAVE Accessibility Evaluation Tool. Mae gwiriadau cydymffurfio pellach wedi’u cynnal drwy Accessibility Checker.

Cysylltwch â ni

Os hoffech gael gwybod mwy am sut y gallwn helpu eich busnes neu os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cymorth y gallwn ei gynnig, yna cysylltwch â ni.

Cysylltwch â ni