Adeiladu Busnesau Bwyd yng Nghymru: Sylfaenwyr o Gefndiroedd Ethnig Amrywiol
Ydych chi’n entrepreneur o gefndir ethnig amrywiol sydd â syniad am fusnes bwyd neu ddiod, neu’n awyddus i dyfu eich busnes?
Ymunwch â Cywain a Chanolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE i ddysgu mwy am y cymorth sydd ar gael i fusnesau bwyd a diod yng Nghymru, ac i glywed gan sylfaenwyr busnesau bwyd a diod llwyddiannus yng Nghymru:
- Leroy (The Pattyman)
- Sabrina (Roots & Roti)
- Wayne (Bon Homie Drinks – wedi’i sefydlu gan y brawd a’r ddwy chwaer Wayne, Kim ac Adrina)
Cysylltwch ag arbenigwyr y diwydiant, dysgwch fwy am y cymorth sydd ar gael, rhwydweithiwch gydag entrepreneuriaid o’r un anian, a mwynhewch ginio gan Mami Maggie’s Recipes.

Manylion y digwyddiad
- The Grange Pavilion, Caerdydd
- 01/10/2026
- 10:00-13:00